- I wneud y brisket: dilynwch ein rysáit Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4, ac irwch ddysgl bobi yn ysgafn.
- Coginiwch y pasta mewn dŵr berw, gan ei dynnu oddi ar y gwres cyn iddo fynd yn rhy feddal. Draeniwch y dŵr ac ychwanegu mymryn o olew, gan ei gymysgu.
I wneud y saws caws:
- Toddwch y menyn ac ychwanegu’r blawd, gan ei goginio am funud. Yn raddol, ychwanegwch y llaeth gan gymysgu’r cyfan yn dda er mwyn osgoi unrhyw lympiau.
- Dewch â’r cymysgedd i’r berw ac ychwanegwch y pupur a halen a’r powdr mwstard, gan ei adael i fudferwi am 1 funud.
- Tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu tua hanner o’r caws, gan gymysgu’n dda.
- Ychwanegwch y pasta wedi’i goginio a’r cig eidion, gan gymysgu’n dda.
- Rhowch hanner y cymysgedd yn y ddysgl, gan roi gweddill y caws cheddar ar ei ben, cyn ychwanegu’r cymysgedd pasta a fydd ar ôl.
- Mewn powlen fechan, cymysgwch y briwsion bara, y caws parmesan, a’r menyn wedi’i doddi ynghyd, gan wasgaru’r cymysgedd dros y pasta.
- Pobwch yn y popty am tua 25 munud tan y bydd yn chwilboeth ac yn euraid.