
Cynhwysion
- Cytledi Cig Oen Cymru PGI, esgyrn wedi’u twtio
- Olew i goginio
- Halen a phupur
Ar gyfer y salsa:
- 1 nionyn coch
- 2 sialotsyn, neu 1 nionyn bach
- ½ llwy de o halen môr
- 2 lwy fwrdd o gaprys
- 1 tsili coch, wedi’i dorri
- 8 tomato eirin bach
- 120ml o olew olewydd pur iawn
- Llond llaw o bersli dail gwastad
- Llond llaw o goriander
- Llond llaw o fintys
- 1 leim, croen a sudd
- Pinsiad o siwgr
Ar gyfer y crwst lemwn crimp:
- 150g o friwsion bara ffres
- 30g o fenyn
- 2 lemwn, croen
10
Amser coginio
30
Amser paratoi
4
Yn gweini
- I wneud y salsa – cymysgwch yr holl gynhwysion am ychydig funudau mewn prosesydd bwyd neu, os ydych yn ei wneud â llaw, torrwch yr holl gynhwysion yn fân a'u cyfuno. Bydd y salsa'n cadw mewn jar wedi'i selio am ychydig ddyddiau.
- I wneud y crwst crensiog – toddwch y menyn mewn padell ffrio, ychwanegwch y briwsion bara a throwch dros wres cymedrol nes maent yn euraidd, yna ychwanegwch y croen lemwn. Gadewch iddo oeri.
- I baratoi'r cytledi – cynheswch olew mewn padell ffrio fawr ac ychwanegwch y cytledi. Ysgeintiwch halen a phupur drostynt a'u ffrio am 3-4 munud ar bob ochr.
- I weini: gorchuddiwch bob cytled â'r gymysgedd salsa ac yna'r briwsion crensiog.
