
Cynhwysion
- 450g o friwgig Cig Eidion Cymreig
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 foronen, wedi’u gratio
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 700g o passata
- 100ml o stoc cig eidion
- 1 llwy de o berlysiau cymysg sych
- Pupur du
- 6 dalen o lasagne
- 1 pêl o mozzarella wedi’i sleisio
- Basil
- Caws cheddar wedi’i gratio (dewisol)
30
Amser coginio
5
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Ffriwch y cig eidion nes ei fod yn frown.
- Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg a'u ffrio am 2 funud.
- Ychwanegwch y perlysiau, pupur du, passata, moron a stoc a chymysgwch yn dda, dewch ag ef i'r berw.
- Torrwch y dalennau lasagna i mewn a'u cymysgu'n dda.
- Rhowch y caead ar y badell a mudferwch am 20 munud.
- Tynnwch y caead a rhowch y sleisys mozzarella ar ei ben.
- Rhowch mewn popty poeth neu o dan y gril nes bod y caws wedi meddalu.
- Gweinwch wedi'u gwasgaru â dail basil a chaws wedi'i gratio (dewisol).
- Blasus gyda bara garlleg a salad.
