- Yn gyntaf rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegwch y past harissa, y garlleg, y tomatos a’r pupur a halen.
- Yna rhannwch y gymysgedd yn wyth darn a’u mowldio’n siapiau selsig.
- Rhowch y sgiwerau drwy’r siapau selsig a’u gwasgu’n ysgafn i’w cadw’n sownd.
- Rhowch y koftas sydd newydd gael eu siapio ar blat, eu gorchuddio a’u gadael i oeri yn yr oergell am 15-20 munud.
- Nawr rhagdwymwch y gril, tynnwch y koftas o’r oergell, a’u coginio dan y gril poeth. Coginiwch am ryw 12 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
- Wrth i’r koftas cig oen goginio; cymysgwch y tomato mawr, y ciwcymbr, y tomatos heulsych, yr oregano sych, y caws ffeta a’r persli sych – ac ychwanegwch fymryn o bupur a halen.
- Gweinwch y koftas blasus gyda salad Groegaidd a bara pitta wedi’i grasu.
Koftas Harissa Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd past harissa
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 5 tomato heulsych, wedi’u torri
- Pupur a halen
- Sgiwerau bambŵ, wedi’u socian mewn dŵr oer
Ar gyfer y salad Groegaidd:
- 1 tomato mawr, wedi’i dorri’n giwbiau
- ¼ ciwcymbr, wedi’i dorri’n giwbiau
- 4 tomato heulsych, wedi’u torri
- Pinsiad o oregano sych
- 50g caws ffeta, wedi’i falu
- Pupur a halen
- 2 lwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fras
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1412 KJ
- Calorïau: 340 kcals
- Braster: 24.1 g
- Sy’n dirlenwi: 3 g
- Halen: 2.1 g
- Haearn: 3.4 mg