- Cynheswch y popty i 180˚C /160˚C ffan / Nwy 4.
- Rhowch halen a phupur ar y golwython cig oen. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolig a ffrio’r golwython cig oen am ychydig funudau ar bob ochr nes eu bod wedi brownio. Trosglwyddwch y golwython cig oen i ddysgl gaserol canolig.
- Ffriwch y foronen, y genhinen a’r winwnsyn yn yr un badell ffrio nes eu bod yn frown ysgafn ac wedi meddalu.
- Ychwanegwch y blawd a’i droi am ychydig funudau cyn ychwanegu’r stoc a saws Worcestershire. Cymysgwch yn dda, a dewch ag ef i’r berw i’w dewychu.
- Arllwyswch y cymysgedd dros y golwython, gan ychwanegu sbrigiau o rosmari a theim.
- Trefnwch y tafelli tatws ar ben y hotpot cig oen, gan orgyffwrdd â’r ymylon, yna brwsiwch â’r menyn wedi’i doddi.
- Pobwch yr hotpot yn y popty am tua 1½ awr nes bod y tatws wedi coginio ac yn grensiog.
Hotpot golwython Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 1 awr 50 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 6-8 golwyth Cig Oen Cymru PGI
- 2 lwy fwrdd olew olewydd
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u sleisio
- 1 genhinen, wedi’i thocio a’i thorri’n fras
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri’n fras
- 2 lwy fwrdd blawd plaen
- 1l stoc cig oen
- 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
- Sbrigiau o deim a rhosmari ffres
- 100g menyn hallt, wedi’i doddi
- 3 taten fawr flodiog, wedi’u plicio a’u torri’n gylchoedd 1cm
- Pupur a halen