
Ingredients
- 450g Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- Olew olewydd
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri
- 2 ewin garlleg wedi’u torri’n fân
- 1 llwy de tyrmerig mâl
- ½ llwy de sinamon mâl
- ½ llwy de sinsir mâl
- 1 llwy de paprica mwg
- Pupur a halen
- 1l stoc cyw iâr
- Tun 400g tomatos wedi’u torri
- 1 tun ffacbys, wedi’u draenio a’u rinsio
- 2 lwy fwrdd purée tomato
- 100g corbys
- 50g vermicelli, wedi’u torri
- 1 bwnsiad coriander, wedi’i dorri
- 1 bwnsiad persli dail gwastad, wedi’i dorri
- Iogwrt naturiol, i weini
60
Cooking Time
15
Prep Time
4
Serves
- Cynheswch ychydig o olew mewn padell. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg, a'u ffrio'n ysgafn am 5 munud nes eu bod wedi meddalu.
- Ychwanegwch y ciwbiau cig oen, y sbeisys a'r sesnin, cymysgwch yn dda, a'u ffrio'n ysgafn am 5 munud.
- Ychwanegwch y vermicelli, y stoc cyw iâr, y tomatos tun, y corbys a'r purée tomato a dod â'r cyfan i'r berw, cyn mudferwi.
- Mudferwch, heb ei orchuddio, am tua 30 munud. Ychwanegwch y ffacbys a'u coginio am 15 munud arall. Gwiriwch i weld a yw'r corbys a'r cig oen yn barod. Dylai fod yn ansawdd cawl (gellir ei dewychu â blawd a dŵr neu ychwanegu mwy o stoc os yw'n rhy drwchus).
- Cymysgwch lwyaid o iogwrt a'r perlysiau i mewn cyn gweini.