
20
Cooking Time
20
Prep Time
4
Serves
- Rhowch halen a phupur ar y golwythion a’u rhoi ar badell grilio. Rhowch nhw o dan gril wedi’i dwymo’n barod a’u coginio am 8-10 munud bob ochr tan eu bod yn frown ac wedi’u coginio’n drylwyr.
- Bum munud cyn diwedd y cyfnod coginio, cymysgwch yr olew olewydd a’r jeli mintys mewn dysgl fach nes eu bod wedi cyfuno ac yn feddal.
- Rhowch lwyaid o’r gymysgedd olew a mintys ar ben y golwythion, a’u rhoi yn ôl o dan y gril nes eu bod yn frown.
- Yn y cyfamser, rhowch yr olew llysiau a’r menyn mewn padell a’u meddalu. Ychwanegwch y tatws newydd wedi’u coginio, y garlleg a’r madarch i’r badell. Coginiwch nes bod y tatws yn frown a chrensiog, a’r madarch wedi meddalu.
- Gweinwch gyda salad tymhorol a thaenwch lwyaid o sudd o’r badell dros y cwbl.