- Blansiwch y tomatos mewn dŵr berwedig a’u hoeri mewn dŵr rhew. Pliciwch nhw a’u gadael ar yr ochr ar gyfer wedyn.
- Berwch y tatws nes eu bod yn feddal yn y canol ond yn dal yn gadarn, draeniwch nhw, a’u gadael i oeri’n llwyr, yna sleisiwch nhw’n dafelli 1cm a’u rhoi o’r neilltu.
- Tynnwch y braster dros ben oddi ar y rag cig oen a’i dorri rhwng pob asgwrn i gael 6 golwyth/cytled o bob rag. Fflatiwch y cig nes ei fod yn ½ cm o drwch.
- Mewn powlen, cymysgwch yr wyau cyfan a’r caws, ychwanegwch y blawd ac arllwyswch y llaeth i mewn yn araf. Sesnwch gyda halen a phupur.
- Trochwch bob golwyth yn y cymysgedd wy gan adael yr asgwrn yn lân, gadewch i’r cymysgedd dros ben ddraenio cyn rhoi’r golwyth yn y briwsion bara, gan wneud yn siŵr ei fod wedi’i orchuddio’n dda ar y ddwy ochr. Trochwch un ochr yn unig o’r golwyth yn y cymysgedd wyau ac eto i mewn i’r briwsion bara. Gydag ymyl ddi-fin cyllell, gwnewch y marciau rhomboid traddodiadol ar ochr y golwythion sydd wedi’u trochi ddwywaith.
- Mewn dŵr hallt, berw, blansiwch hanner y berwr a’i oeri mewn dŵr rhew. Draeniwch ef a’i drosglwyddo i gymysgydd. Ychwanegwch weddill y berwr a gweddill y cynhwysion a’u cymysgu nes eu bod wedi’u cyfuno’n dda.
- Cynheswch badell ffrio gyda’r olew coginio a dechreuwch ffrio’r golwythion ar yr ochr sydd wedi’i marcio yn gyntaf. Pan fyddan nhw’n frown euraidd, trowch nhw drosodd, ychwanegwch hanner y menyn a pharhau i’w coginio nes eu bod yr un lliw ar y ddwy ochr. Draeniwch ar bapur cegin.
- Yn y cyfamser, mewn padell, cynheswch weddill y menyn, ychwanegwch y tatws wedi’u sleisio, sesnwch gyda halen a ffriwch, gan eu troi’n achlysurol, nes eu bod yn grensiog ac yn euraidd.
- Cynheswch gril y popty ymlaen llaw i 200˚C / Ffan 180˚C / Nwy 6. Sesnwch y tomatos gydag olew olewydd, halen a phupur, trosglwyddwch nhw i hambwrdd pobi a’u coginio o dan y gril nes eu bod wedi rhostio ychydig.
- Rhowch y golwyth mewn dysgl weini, ychwanegwch y tatws wedi’u ffrio a’r tomatos rhost wrth ei ymyl. Cwblhewch gyda llwyaid o pesto ar ben pob golwyth.
Golwyth Cig Oen Cymru Milanese gyda pesto berwr, tomatos rhost a thatws sautée gan Francesco Mazzei
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 2 rag Cig Oen Cymru PGI, 6 asgwrn yr un
- 20 tomato bach
- 20 taten Ratte
- 500g briwsion bara
- 4 wy cyfan
- 100ml llaeth cyflawn
- 30g caws Grana Padano
- 20g blawd plaen
- 200ml olew coginio
- 80g menyn
- 20ml olew olewydd ifanc iawn
Ar gyfer y pesto berwr:
- 400g berwr
- 80ml olew olewydd ifanc iawn
- 20g caws pecorino, wedi’i ratio
- 20g caws Grana Padano, wedi’i ratio
- ½ ewin garlleg
- Halen