
Cynhwysion
- 450g stêc ffolen neu syrlwyn Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster, wedi ei thorri’n stribedi tenau
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 winwnsyn coch, wedi ei sleisio’n denau
- 1 pupur coch, wedi ei sleisio’n denau
- 1 pupur melyn, wedi ei sleisio’n denau
- 2 lwy fwrdd sesnin fajita
- 2 domato ffres, wedi eu torri’n fras
- Tortillas blawd
Ar gyfer y dip iogwrt siarp:
- 4 llwy fwrdd o mayonnaise
- 4 llwy fwrdd iogwrt naturiol
- 1 ewin garlleg, wedi ei falu
- Llond llaw o bersli â dail fflat, wedi ei dorri’n fân
10
Amser coginio
20
Amser paratoi
5+
Yn gweini
- Twymo’r olew mewn padell fawr, ychwanegu’r stribedi o gig a’u brownio am funud neu ddau.
- Ychwanegu’r winwns a’r pupurau a’u coginio tan eu bod yn dechrau meddalu.
- Ychwanegu’r sesnin fajita a’i gymysgu’n drwyadl, ei droi am funud neu ddau cyn ychwanegu’r tomatos a’i droi tan ei fod yn boeth drwyddo.
- Gwneud y dip trwy gymysgu’r mayonnaise, yr iogwrt a’r garlleg.
- I roi’r cyfan gyda’i gilydd – Twymo’r tortillas yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn ac yna rhoi llwyaid fawr o gymysgedd y cig ar bob tortilla, cyn rhoi llond llwy o’r dip ar bob un, heb anghofio’r persli. Rholio’r tortillas a’u mwynhau.