- Tynnwch y brisged allan o’r oergell 45 munud cyn ei goginio i gyrraedd tymheredd yr ystafell.
- Cynheswch y popty i 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2.
- Cymysgwch y sbeisys gyda’i gilydd ar gyfer y rhwbiad a’i rwbio’n ysgafn i mewn i arwyneb y brisged.
- Rhowch y sleisys winwns mewn tun rhostio a gosodwch y brisged ar y top. Ychwanegwch 200ml o ddŵr poeth. Gorchuddiwch yn llac iawn gyda phapur pobi nad yw’n glynu ac yna seliwch â ffoil. Rhowch yn y popty am 2 awr.
- Tynnwch y ffoil a’r papur pobi i ffwrdd a pharhau i goginio am tua 2 awr. Dylai’r cig wedyn fod yn dyner ond heb haenu. Os nad yw’n barod, gorchuddiwch a dychwelwch i’r popty.
- Gwnewch y saws trwy gymysgu’r cola a’r saws barbeciw gyda’i gilydd, ychwanegwch ychydig o’r sudd coginio.
- Pan fydd y brisged wedi’i goginio, tynnwch o’r popty a gadewch iddo oeri ychydig, fel y gallwch ei gyffwrdd.
- Cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
- Torrwch y brisged yn ddarnau bach a rhowch yn ôl yn y tun rhostio, yna arllwyswch ychydig o’r saws drosto, dim ond digon i orchuddio’r cig, a’i gymysgu’n dda.
- Rhowch yn y popty am 30 munud nes bod y cig yn grensiog.
- Gweinwch gyda colslo crensiog a salad.
Darnau llosg brisged Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 4 awr 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.5-2kg darn fflat brisged Cig Eidion Cymru PGI
- 1 winwnsyn, wedi’i sleisio’n fras
- Ar gyfer y rhwbiad:
- 1 llwy de halen
- 1 llwy de pupur mâl bras
- 1 llwy de powdr garlleg
- 1 llwy de paprika
- 1 llwy de pupur cayenne
Ar gyfer y saws:
- Can bach o cola
- 1 jar neu botel fach o saws barbeciw da. (Neu, gwnewch eich saws barbeciw eich hun)