- Twymwch y popty ymlaen llaw i 190ºC / 170˚C ffan / Nwy 5.
- Twymwch yr olew mewn padell ffrio wrthglud fawr, ychwanegwch y cytledi cig oen, y garlleg a’r winwnsyn a’u coginio nes eu bod yn euraidd ar bob ochr.
- Pan fydd y cytledi wedi brownio, trowch y gwres yn is a choginio’n ysgafn am 4-5 munud arall. Cofiwch gadw caead ar y badell – os yw’r winwns yn dechrau coginio gormod tynnwch nhw oddi ar y gwres a’u cadw’n gynnes.
- Tynnwch y cytledi o’r badell ar ôl iddyn nhw goginio a chadwch nhw’n gynnes.
- Yna ychwanegwch y caws hufennog a’r llaeth i’r badell a’u cymysgu gyda sudd y cig. Twymwch y cyfan yn ysgafn ac ychwanegwch y basil a’r persli.
- I wneud y sglodion mawr, torrwch y tatws a’u rhoi ar hambwrdd pobi gydag ychydig o olew a’u coginio am 30-40 munud neu nes eu bod yn grensiog ac euraidd.
- Gweinwch y cytledi gyda’r sglodion mawr a llysiau tymhorol gydag ychydig o’r saws hufennog drostyn nhw.
Cytledi Cig Oen Cymru gyda saws garlleg a pherlysiau
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 4-6 cytled Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd olew
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 winwnsyn coch bychan, wedi’i sleisio
- 100g caws hufennog
- 6 llwy fwrdd llaeth
- 2 lwy fwrdd persli a basil ffres, wedi’u torri
Ar gyfer y sglodion trwchus:
- 2 daten bobi fawr, wedi’u torri’n sglodion mawr
- Olew i goginio’r sglodion
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 4395 KJ
- Calorïau: 1057 kcals
- Braster: 78 g
- Sy’n dirlenwi: 33.9 g
- Halen: 0.7 g
- Haearn: 3.1 mg