- Coginiwch y cytledi cig oen o dan gril wedi ei gynhesu’n barod neu ar farbeciw poeth am 8-12 munud.
- Yn y cyfamser gwnewch y menyn. Cymysgwch y menyn meddal gyda chroen a sudd y leim, a’r coesyn sinsir wedi ei dorri’n fân. Rhowch lwyaid o’r menyn ar y cytledi cig oen a gadewch iddyn nhw oeri ychydig cyn eu gweini.
- Gweinwch gyda salad tatws newydd a llysiau tymhorol.
Cytledi Cig Oen Cymru gyda menyn leim a sinsir
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 4 cytled neu olwyth lwyn Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 50g menyn wedi meddalu
- ½ leim, y sudd a’r croen wedi ei ratio
- 1 llwy fwrdd coesyn sinsir mewn surop, wedi ei dorri’n fân
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 3501 KJ
- Calorïau: 846 kcals
- Braster: 76.4 g
- Sy’n dirlenwi: 40.2 g
- Halen: 0.70 g
- Haearn: 2.05 mg