
Cynhwysion
Ar gyfer y Cig Oen Cymru
- 8 – 10 cytled Cig Oen Cymru
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- Pupur du a halen
- Ar gyfer y reis llachar
- 250g reis basmati
- Hadau pomgranad
- 10 deilen fintys ffres, wedi’u torri’n fân
- 30g persli ffres, wedi’i dorri’n fân
- Ar gyfer y chimichurri
- 30g persli ffres, wedi’i dorri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi’u minsio
- 4 llwy fwrdd finegr gwin coch
- 80ml olew olewydd
- ½ llwy de oregano sych
- Pinsiad o haenau tsili (dewisol)
- Pupur a halen
20
Amser coginio
20
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Coginiwch y reis basmati yn gyntaf a gadewch iddo oeri ychydig cyn ei gymysgu drwy'r hadau pomgranad, y mintys a'r persli.
- Cymysgwch holl gynhwysion y chimichurri mewn powlen a'u rhoi o'r neilltu i ganiatáu i'r blasau ddatblygu.
- Rhwbiwch y cytledi oen gydag olew olewydd a’u sesno’n hael gyda halen a phupur. Barbeciwiwch nhw am tua 3 munud ar bob ochr, neu nes eu bod wedi'u coginio at eich dant.
- Llwythwch y reis ar blât gweini, rhowch y cytledi oen ar ei ben a gorffen y cyfan gyda digon o chimichurri ffres.
