
Ingredients
- 900g coes Cig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn, wedi’i thorri’n giwbiau mân
- 125ml olew mwstard
- 1 ffon sinamon 5cm
- 6 coden cardamom gwyrdd, wedi’u cleisio
- 3 coden cardamom du, wedi’u cleisio (dewisol)
- 2 ddeilen llawryf Indiaidd
- 4 winwnsyn coch, wedi’u gratio
- 10 ewin garlleg, heb eu plicio, wedi’u malu a’u torri’n fân
- 1½ llwy de halen
- 1 llwy fwrdd powdr tsili Kashmiri
- ½ llwy de tyrmerig mâl
- 2 lwy de coriander mâl
- 2 lwy de cwmin mâl
- 1 llwy de ffenigl mâl
- 2 lwy de garam masala
- 6 tsili gwyrdd llygad aderyn, wedi’u hollti i lawr y canol
- 4 bylb garlleg cyfan
- 3 llwy fwrdd (hael) ghee wedi’i doddi
Ar gyfer y sêl toes
- 6 llwy fwrdd blawd plaen
50
Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
Diolch i The Curry Guy am y rysait
- Y peth gorau i’w wneud yw puro'r olew mwstard yn gyntaf trwy ei fygu a gadael iddo oeri ychydig. Yna cynheswch eto dros wres uniongyrchol ac ychwanegwch y sbeisys cyfan a'r dail llawryf i drwytho am ryw 30 eiliad.
- Tynnwch nhw oddi ar y gwres. Arllwyswch hanner yr olew mwstard i'ch pot clai. Os nad oes gennych un, defnyddiwch sosban fetel gyda chaead. Ychwanegwch y winwns wedi'u gratio, y garlleg wedi'i dorri, yr halen a'r holl sbeisys mâl. Trowch yn dda.
- Ychwanegwch y tsilis gwyrdd, bylbiau garlleg cyfan a'r cig oen wedi'i dorri’n gwibiau mân. Arllwyswch yr olew mwstard sy'n weddill dros y cyfan a'i droi’n dda fel bod popeth wedi'i orchuddio'n gyfartal.
- Nawr gwnewch does meddal gan ddefnyddio'r blawd ac ychydig o ddŵr. Ni fyddwch yn bwyta hwn, felly nid oes angen poeni gormod amdano. Mae ei angen i selio'r pot.
- Gosodwch y toes meddal o amgylch ymyl y pot ac yna gosod y caead ar ei ben i'w selio.
- Rhowch y pot wedi'i selio yn uniongyrchol ar y glo poeth yn rhan boethaf y tân a'i adael am 3 munud. Ysgwydwch y pot i symud y cynhwysion o gwmpas y tu mewn a'i roi ar y glo ar ran gwres isaf y tân. (Os ydych chi'n coginio ar hob, gan ddefnyddio sosban â chaead arni, coginiwch ar wres uchel am y 3 munud cyntaf, yna gostyngwch y gwres yn isel iawn am yr amser coginio sy'n weddill.)
- Bob rhyw ddeg munud, codwch y potyn a rhowch ambell ysgytwad caled iddo. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cig yn coginio heb losgi gwaelod y pot.
- Ar ôl tua 50 munud, bydd y cig y tu mewn yn frau ac yn ‘cwympo oddi ar yr asgwrn’ a bydd y bylbiau garlleg yn feddal braf. Ewch â’r potyn at y bwrdd a thynnwch y caead. Bydd yn creu argraff go iawn ac mae'r arogl yn anhygoel. Trowch y ghee wedi'i doddi i mewn a'i weini gyda reis neu fara naan.