
10
Amser coginio
10
Amser paratoi
4
Yn gweini
- I goginio'r cig oen crensiog – cynheswch yr olew mewn padell ffrio ac ychwanegu'r powdr pum sbeis a'i gymysgu'n dda. Yna, ychwanegwch y darnau o gig oen a throi'r cymysgedd yn ofalus am tua 10 munud er mwyn sicrhau bod y cig oen yn grensiog ac yn chwilboeth.
- Cynheswch y crempogau yn unol â chyfarwyddiadau'r pecyn.
- Taenwch ychydig o saws hoisin dros bob crempog a rhoi'r llysiau a'r cig oen poeth ar eu pennau. Rholiwch y cyfan i greu rholiau crempog.
