- Tynnwch y cig oen o’r oergell awr cyn ei goginio fel ei fod ar dymheredd yr ystafell.
- Cynheswch y popty i 220˚C / 200˚C ffan / Nwy 7.
- Mewn powlen fach, cymysgwch yr olew, oregano, rhosmari, teim, croen y lemwn, 2 lwy fwrdd o sudd lemwn, garlleg a sesnin gyda’i gilydd.
- Gan ddefnyddio cyllell finiog, gwnewch doriadau bach i mewn i’r cig oen. Gwasgarwch y darnau nionyn o gwmpas y tun rhostio a gosodwch y cig oen ar y top.
- Rhwbiwch y cymysgedd perlysiau ar wyneb y cig oen, ac ychwanegwch y bylb garlleg wedi’i haneru. Rhowch yn y popty am 30 munud.
- Gostyngwch y tymheredd i 190˚C / 170˚C ffan / Nwy 5 a brasteru’r cig oen. Coginiwch am 45 munud arall yna tynnwch o’r popty a threfnwch y sleisys lemwn ac oren neu glementin dros ben y cig oen, diferwch â sudd o’r tun a’r mêl.
- Rhowch yn ôl yn y popty i goginio am 35 munud arall ar gyfer cig oen wedi’i goginio’n ganolig, neu coginiwch at eich dant.
- Gadewch i’r cig oen orffwys am o leiaf 30 munud cyn ei dorri.
- Gweinwch gyda thatws rhost crensiog, llysiau a saws mintys.
Coes rhost Cig Oen Cymru gyda pherlysiau, garlleg, a sleisys lemwn a chlementin
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 1 awr 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 2kg coes Cig Oen Cymru PGI (ar yr asgwrn)
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 llwy fwrdd oregano sych
- 3 sbrigyn rhosmari, wedi’u torri’n fân
- Sbrigiau o deim, y dail wedi’u tynnu a’u torri
- 4 ewin garlleg, wedi’u malu
- Pupur a halen
- 3 lemwn (croen a sudd un lemwn; sleisiwch y ddau lemwn arall)
- 2 oren bach neu glementin, wedi’u sleisio
- Gwasgiad o fêl rhedegog
- 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n dalpiau
- 1 bylb garlleg, wedi’i haneru