
110
Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Mewn powlen rhowch y sleisys o datws, winwnsyn, rhosmari a halen a phupur, gan gymysgu’r cyfan.
- Rhowch y cynhwysion ar waelod padell neu ddysgl rostio fawr (ac sy’n ddigon mawr i’r goes gyfan). Ychwanegwch y sleisys o ellyg a’u rhoi rhwng y tatws.
- Pwyswch y goes a chyfrifwch yr amser coginio: wedi’i rostio’n weddol - 25 munud am bob 450g/500g a 25 munud ychwanegol, wedi’i rostio’n dda - 30 munud am bob 450g/500g a 30 munud ychwanegol.
- Rhowch y goes ar ben y tatws, arllwyswch y seidr drosti a rhowch y stoc yn y ddysgl.
- Gorchuddiwch â ffoil a choginiwch am hanner yr amser gyda’r ffoil a gweddill yr amser heb y ffoil.
- Gweinwch gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio.