facebook-pixel

Ffolennau bach Cig Oen Cymru harissa wedi eu pobi mewn hambwrdd popty

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 4 – 5 darn ffolen Cig Oen Cymru PGI unigol (tua 180g yr un)
  • 4 llwy fwrdd (jar bychan) past harissa
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 6 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u haneru
  • 2 lemon, wedi eu torri’n dalpiau
  • 350g tatws bychain, wedi eu haneru os ydyn nhw’n fawr
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei blicio a’i dorri’n dalpiau
  • 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n dalpiau
  • 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mawr
  • 1 pecyn o frocoli tenau
  • 300g tomatos bychain ar y winwydden

I weini

  • Dail basil
  • Bara â hadau

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 190°C / 170°C ffan / Nwy 5.
  2. Gan ddefnyddio cyllell finiog, crafwch batrwm siâp diemwnt ar y braster ar ben y ffolennau. Rhwbiwch y past harissa i mewn i’r braster a dros y cig i gyd.
  3. Mewn powlen fawr, cymysgwch y garlleg, y lemon, y tatws a’r pupur. Ychwanegwch yr olew a chymysgu i orchuddio’r holl lysiau.
  4. Rhowch y llysiau mewn hambwrdd popty dwfn, rhowch y darnau o gig oen ar eu pennau a rhoi’r cyfan yn y ffwrn am 30 munud. Os ydych chi’n hoffi eich cig oen yn binc, tynnwch allan o’r ffwrn ar ôl 30 munud a’i gadw’n gynnes, ac os am ei goginio’n dda, gadewch yn y ffwrn gyda’r llysiau.
  5. Ar ôl 30 munud, ychwanegwch y brocoli a’r tomatos a’u brwsio gyda’r suddion o’r hambwrdd. Gwasgwch y talpiau o lemon dros y llysiau a rhoi’r cyfan yn ôl yn y ffwrn am 20 munud.
  6. Gorffwyswch y cig am 5 munud cyn ei sleisio.
  7. Gweinwch gyda bara â hadau i amsugno’r suddion blasus.
Share This