Diolch i Bwyd a Diod Cymru am y rysait.
- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Crafwch y braster ar y cig oen a’i sesno’n dda. Seriwch y cig oen mewn padell boeth wrthglud nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 Tynnwch yr oen allan o’r ffwrn a gadewch iddo orffwys am 5 munud.
- Torrwch y mintys, y persli, y garlleg a’r cornichons yn fân a’u rhoi mewn powlen. Ychwanegwch yr olew olewydd, croen 1 lemon, y sudd lemon a’r bara lawr a’i droi. Ychwanegwch bupur a halen at eich dant.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y menyn a’i adael i doddi cyn ychwanegu’r briwsion Taflwch y briwsion bara yn y menyn a’r olew. Coginiwch dros wres canolig nes eu bod yn grimp ac yn euraid. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y croen sy’n weddill (1 lemwn).
- Rhannwch y cytledi a’u gweini gyda’r saws dipio a’r briwsion bara lemwn.