Mynd i'r cynnwys

Ingredients

  • 4 darn unigol o ffolennau bach Cig Oen Cymru PGI, braster wedi’i ricio
  • 1 llwy fwrdd o olew, ar gyfer ffrio
  • 450g o datws bach, wedi’u haneru
  • 1 llwy fwrdd o olew, ar gyfer gorchuddio’r tatws
  • 1 llwy fwrdd o rosmari ffres, wedi’i dorri
  • Halen môr a phupur du
  • Sbrigau o rosmari
  • 1 llwy fwrdd o jeli cyrens cochion i weini, neu ychwanegwch at y grefi

Ar gyfer y marinâd:

  • 125ml o finegr balsamaidd
  • 2 lwy fwrdd o fêl clir
  • 1½ llwy fwrdd o fwstard grawn cyflawn
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • Halen a phupur

60
Cooking Time
20
Prep Time
4
Serves
  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Paratowch y marinâd drwy gyfuno'r finegr, y mêl, y mwstard, y garlleg a'r halen a'r pupur. Ychwanegwch y darnau cig oen a rhwbiwch y marinâd i mewn i'r cig a'r braster wedi'i ricio. Gadewch iddo sefyll am o leiaf 30 munud.
  3. Cyfunwch yr olew, y rhosmari wedi'i dorri, yr halen a'r pupur yna ychwanegwch y tatws a chymysgwch yn dda.
  4. Cynheswch badell (y gellir ei rhoi yn y popty), ychwanegwch yr olew a ffriwch y ffolennau cig oen ar ochr y braster am ychydig funudau nes mae'n frown yna trowch i frownio pob ochr. Ychwanegwch y tatws i'r badell, ffrïwch nes maent wedi brownio'n ysgafn. Ychwanegwch y sbrigau rhosmari ac yna trosglwyddwch i'r popty i orffen coginio am oddeutu 20-25 munud nes mae'r tatws wedi coginio.
  5. Gadewch i'r cig sefyll am 5 munud cyn ei gerfio. Wrth iddo sefyll, paratowch y grefi ac ychwanegwch y jeli cyrens cochion iddo.
  6. Gweinwch gyda llysiau gwyrdd e.e. brocoli

Bwyta Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig

Cig Oen Cymreig

Cig Eidion Cymreig



© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025