- Twymwch y ffwrn i 150°C / 130°C ffan / Nwy 2.
- Twymwch 1 llwy fwrdd o olew mewn dysgl caserol a choginiwch y winwns am ryw 5 munud, ychwanegwch y garlleg a’r moron, eu cymysgu, a choginio am 5 munud arall.
- Ychwanegwch yr olew sy’n weddill i badell ffrio, rhowch bupur a halen ar y cig eidion a’i frownio ar y ddwy ochr cyn ei ychwanegu i’r caserol.
- Crafwch waelod y badell ffrio gyda’r gwin coch, gan gasglu’r holl doddion o’i gwaelod. Tywalltwch dros y cig eidion gyda’r stoc, y ddeilen bae a’r dail teim. Gorchuddiwch a choginiwch yn y ffwrn am 2 awr. Cymysgwch y llugaeron a’r cnau castan i mewn a’i ddychwelyd i’r ffwrn am awr arall nes bod y cig eidion yn frau.
- Tynnwch allan o’r ffwrn a’i weini gyda thatws stwnsh, seleriac a llysiau gwyrdd wedi eu stemio.
Cig Eidion Cymru wedi brwysio gyda llugaeron a chnau castan
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 3 awr 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1kg stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi brwysio a’i sleisio’n denau
- 3 llwy fwrdd o olew
- 2 winwnsyn, wedi eu sleisio’n denau
- 4 ewin garlleg, wedi eu malu
- 300g moron, wedi eu torri’n fân
- Pupur a halen
- 300ml gwin coch
- 300ml stoc cig eidion neu ddŵr
- 1 ddeilen bae
- 1 llwy fwrdd o ddail teim ffres
- 300g llugaeron ffres neu wedi rhewi
- 180g cnau castan wedi eu coginio