- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C / 160°C / Nwy 4.
- Cynheswch ddysgl caserol ac ychwanegu’r olew, gan frownio’r darnau o gig eidion fesul tipyn tan y byddan nhw wedi’u selio. Tynnwch y cig eidion allan a’i osod o’r neilltu am y tro. Ychwanegwch y winwns a’r garlleg, a’u coginio am 5 i 10 munud tan y byddan nhw’n dechrau meddalu.
- Ychwanegwch y seleri, y tomatos tun, y piwrî tomato, y teim, y dail llawryf, y finegr balsamig, yr halen a’r pupur a’r cig eidion sydd wedi’i frownio. Rhowch gaead ar y ddysgl a’i gosod yn y ffwrn sy’n boeth yn barod am 30 munud, cyn troi’r gwres yn is i 150°C / 130°C ffan / Nwy 2 a gadael popeth i goginio am awr a hanner.
- Tynnwch y ddysgl o’r ffwrn ac ychwanegu’r cnau castan, y madarch a’r tatws melys. Rhowch y ddysgl yn ôl yn y ffwrn a pharhau i goginio am awr a hanner arall tan y bydd yr holl lysiau’n barod a’r cig yn frau.
- Gweinwch gyda llysiau gwyrdd wedi’u stemio.
Cig Eidion Cymru un ddysgl gyda chnau castan
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1kg o goes las Cig Eidion Cymru PGI, heb y braster ac wedi’i dorri’n sleisys tenau
- 2 winwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
- 3 coesyn o seleri, wedi’u golchi a’u torri
- 4 ewin o garlleg, wedi’u sleisio’n denau
- 2 x 400g tun o domatos cyfan
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o finegr balsamig
- 1 llwy fwrdd o deim ffres wedi’i dorri’n fân
- 2 ddeilen llawryf
- 150g o gnau castan wedi’u coginio
- 2 daten felys, wedi’u pilio a’u torri’n giwbiau
- 150g o fadarch, wedi’u chwarteru
- Halen a phupur i roi blas
- Olew i ffrio
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1576 KJ
- Calorïau: 376 kcals
- Braster: 14 g
- Sy’n dirlenwi: 4.4 g
- Haearn: 4.3 mg
- Sinc: 10.7 mg
- Carbohydradau: 24 g
- Sy’n siwgro: 10 g