
Ingredients
- 4 x siancen Cig Oen Cymru PGI
- Pupur a halen
- 2 lwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 3 moronen, wedi’u torri’n gylchoedd
- 2 ffon seleri, wedi’u torri
- 3 llwy fwrdd blawd
- 500ml stoc cig oen neu gig eidion
- 350ml gwin coch
- 2 lwy fwrdd purée tomato
- 1 llwy de rhosmari ffres, wedi’i dorri
- 1 llwy de teim ffres, wedi’i dorri
- 200g madarch bach
I weini:
- Tatws stwnsh a cêl
165
Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
Diolch i My Fussy Eater am y rysait
- Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4.
- Tarwch y siancod cig oen yn sych yn ysgafn gyda phapur cegin a'u sesno'n hael gyda halen a phupur.
- Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol fawr ac ychwanegwch y siancod cig oen. Coginiwch am ryw 10 munud, gan eu troi nes eu bod wedi'u brownio'n ysgafn ar bob ochr.
- Tynnwch y siancod cig oen allan o'r ddysgl a'u rhoi i'r ochr ar blât.
- Ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg, y moron a'r seleri i'r olew yn y ddysgl gaserol a'u coginio am 3 munud.
- Ychwanegwch y blawd, ei gymysgu'n gyflym a'i goginio am funud arall.
- Ychwanegwch y stoc, y gwin, y purée tomato a’r perlysiau a'u cymysgu'n dda.
- Dewch â'r gymysgedd i'r berw ac yna diffoddwch y gwres.
- Dychwelwch y siancod cig oen i'r ddysgl gaserol a'u rhoi yn y popty. Coginiwch am 2 awr 30 munud. Hanner ffordd trwy'r amser coginio, trowch y siancod cig oen drosodd ac ychwanegwch y madarch bach yn gyfan.
- Gweinwch gyda thatws stwnsh a chêl ffres wedi'i goginio.