
Ingredients
- 650g ysgwydd heb asgwrn neu ffiledau gwddf heb asgwrn Cig Oen Cymru PGI, wedi eu torri’n giwbiau
- 2 winwnsyn coch, wedi eu plicio a’u sleisio
- 3 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
- 3cm sinsir ffres, wedi ei ratio
- 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi ei dorri’n fân
- 1 llwy de sinamon mâl
- Pupur a halen
- 300ml stoc cig oen
- 300ml gwin poeth (neu stoc ychwanegol)
- Bouquet garni wedi ei wneud gyda 2 ffon sinamon, sbrigyn o rosmari a chlwstwr o deim
- 2 goeden anis
- 100g datys medjool, wedi eu haneru
- 75g llugaeron sych
- 100g tomatos hirgrwn, wedi eu torri’n dalpiau
- 1 llwy fwrdd siwgr brown
150
Cooking Time
25
Prep Time
5+
Serves
- Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Rhowch y cig oen, y winwns, y garlleg, y tsili, y sinamon a’r sesnin mewn popty araf neu ddysgl bopty. Cymysgwch y cyfan, cyn ychwanegu’r gwin poeth a’r stoc.
- Gwnewch y bouquet garni trwy glymu’r ffyn sinamon a’r perlysiau ynghyd gyda llinyn.
- Rhowch y bouquet garni yn y ddysgl bopty gyda’r coed anis. Cymysgwch yn dda. Gorchuddiwch gyda chaead a’i roi yn y ffwrn am 1 awr 30 munud – 2 awr tan fod y cig yn eithaf brau (mewn popty araf: 2 awr ar y gosodiad uchel neu 4 awr ar y gosodiad isel).
- Tynnwch y caead ac ychwanegwch y datys, y llugaeron, y tomatos a’r siwgr. Cymysgwch y cyfan yn dda.
- Gorchuddiwch gyda’r caead a’i roi’n ôl yn y ffwrn am 45 munud arall (1 awr yn y popty araf).
- Gweinwch y cyfan gyda thatws stwnsh hufennog.