- Rhowch y briwgig oen, pupur a halen, y winwnsyn a’r mwstard mewn powlen fawr. Cymysgwch y cyfan yn drylwyr.
- Rhannwch y gymysgedd a’i siapio’n bedwar byrger. Rhowch ffoil ym mhadell y gril, a choginiwch y byrgers am ryw 12 munud tan eu bod yn frown euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
- Gwnewch y caws pob trwy gymysgu’r mwstard, y caws a’r cwrw.
- Rhyw funud neu ddau cyn gorffen coginio, rhowch y caws pob ar ben pob byrger a’i adael i doddi’n hyfryd. Casglwch unrhyw sudd ar waelod y gril a’i dywallt dros y byrgyrs.
- Gweinwch gyda sglodion trwchus a salad tymhorol neu golslo.
Byrgyrs Cig Oen Cymru gyda thomen o gaws pob
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- Pupur a halen
- 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
- 2 lwy de mwstard Seisnig
Ar gyfer y caws pob:
- 2 lwy de mwstard Seisnig
- 100g caws Cheddar aeddfed, wedi’i ratio
- 2-3 llwy fwrdd cwrw
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1242 KJ
- Calorïau: 298 kcals
- Braster: 18 g
- Sy’n dirlenwi: 9.4 g
- Halen: 1.8 g
- Haearn: 2 mg