- Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y tatws melys (ar wahân i’r olew) mewn powlen gymysgu fawr, a rhannu’r cyfan yn 8 pati. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio nad yw’n glynu, a ffrio’r patis am 3 munud ar bob ochr neu tan y byddan nhw’n frown.
- Cymysgwch gynhwysion y byrgers (ar wahân i’r olew) mewn powlen gymysgu, gan rannu’r cymysgedd yn 4 i greu siapiau byrgers mawr. Rhowch yr olew mewn padell ffrio nad yw’n glynu, a choginio’r byrgers cig eidion am 4-5 munud ar bob ochr, tan y byddan nhw wedi coginio drwyddo.
- Gosodwch y sbigoglys, yr afocado, y byrger cig eidion a’r winwns wedi’u carameleiddio ar bati tatws melys, a rhoi’r ail bati tatws melys ar y top.
- Yn y cyfamser, cymysgwch y bresych deiliog a’r holl gynhwysion eraill mewn powlen, cyn eu gwasgaru mewn tun pobi a’u rhoi mewn ffwrn sy’n boeth yn barod ar wres o 200°C/ 180°C ffan / Nwy 5 am tua 3 munud tan y byddan nhw’n grimp. Gweinwch nhw gyda’r byrger cig eidion.
Byrger iach Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
Y byrger:
- 500g o Gig Eidion Cymru PGI heb ormod o fraster
- 1 llwy bwdin o fwstard grawn cyflawn
- Halen a phupur i roi blas
- Olew i ffrio
- 1 afocado wedi’i falu, gyda halen a phupur
- 1 llond llaw o sbigoglys
- 4 llwy fwrdd o gatwad winwns wedi’u carameleiddio
Ar gyfer y rôl tatws melys:
- 400g o datws melys, wedi’u gratio’n fân
- 2 ŵy canolig eu maint
- 50g o flawd gwenith cyflawn
- 2 llwy de o deim sych
- Halen a phupur i roi blas
- Olew i ffrio
Creision bresych deiliog:
- Bresych deiliog (cêl), wedi’i olchi a’i dorri’n ddarnau, a thynnu’r coesynnau
- 1 llwy fwrdd o halen garlleg
- 1 llwy de o baprica
- 1 llwy de o siwgr brown
- 1 llwy fwrdd o olew
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1874 KJ
- Calorïau: 445 kcals
- Braster: 16 g
- Sy’n dirlenwi: 4.6 g
- Haearn: 4.0 mg
- Sinc: 6.5 mg