
Ingredients
- Darn 1.5kg o frisged Cig Eidion Cymru PGI (heb ei rolio)
- Sesnin
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn mawr, wedi ei blicio a’i sleisio
- 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
- 1 llwy fwrdd paprica wedi ei fygu
- 1 llwy fwrdd sinamon mâl
- 1 llwy fwrdd paprica
- 1 llwy de powdr tsili mwyn
- 2 lwy fwrdd siwgr brown meddal
- 1 llwy fwrdd surop masarn
- 1 llwy fwrdd saws soi golau
- 1 leim, wedi ei dorri’n dalpiau
- 500ml stoc cig eidion
- 2 lwy fwrdd purée tomato
200
Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
- Cynheswch y ffwrn i 150°C / 130°C ffan / Nwy 2.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr. Sesnwch y brisged a’i roi yn yr olew poeth. Seriwch y cig ar bob ochr, a chael lliw brown braf ar y brisged.
- Tynnwch y brisged allan o’r badell a’i roi mewn hambwrdd pobi dwfn neu ddysgl caserol.
- Gan ddefnyddio’r un badell, ffriwch y winwnsyn a’r garlleg tan eu bod yn euraidd a’u rhoi yn yr hambwrdd pobi neu’r ddysgu caserol o gwmpas y brisged.
- Mewn powlen fechan, cymysgwch yr holl gynhwysion sych, ychwanegwch y surop masarn a’r saws soi a’u cymysgu’n bast llyfn. Taenwch y past dros dop ac ochrau’r brisged.
- Cymysgwch y purée tomato i mewn i’r stoc a’i arllwys yn ofalus o gwmpas ymyl yr hambwrdd pobi neu’r ddysgl caserol. Ychwanegwch y darnau leim.
- Gorchuddiwch gyda ffoil neu gaead a’i roi yn y ffwrn am ryw 2 awr a hanner - 3 awr.
- Pan fo’r cig yn frau, tynnwch y ffoil a chynyddu tymheredd y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6. Seimiwch y cig a’i roi’n ôl yn y ffwrn am 20 munud tan fod yr arwyneb yn grimp ac yn sticlyd. Gadewch i’r brisged orffwys am 10 munud.
- Draeniwch weddill y saws a’i dewychu os oes angen. Gweinwch gyda’r brisged wedi ei sleisio a’r coleslaw crenshlyd.