
Cynhwysion
- 1 stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru PGI
 - 2 sleisen o fara surdoes ffres
 - 2 daten goch neu datws cyffredin
 - 1 cwrw du, e.e. Mikkeller Chipotle Porter
 - 1 llwy fwrdd blawd plaen
 - 1 marchruddygl ffres
 - 2 lwy de miso gwyn
 - 2/3 ewin garlleg
 - 1 mêr asgwrn
 - 2 shibwnsyn banana
 - Menyn Cymreig hallt
 - 1 ciwb stoc llysiau
 - 1 caws Black Bomber Eryri
 - 1 pecyn dripin cig eidion wagyu Cymreig
 - 1 pecyn mozzarella
 - Halen Môn a phupur du
 
                 40
              
              
                Amser coginio
              
            
                10
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                1
              
              
                   Yn gweini
              
            - Rhostiwch y garlleg (gan adael y plisgyn arno), y shibwns a’r mêr asgwrn gyda llond llwy fwrdd o’r dripin cig eidion wagyu. Rhowch yn y ffwrn am 20 munud ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
 - Ar ôl 20 munud tynnwch yr hambwrdd allan o’r ffwrn a phlicio’r garlleg.
 - I wneud y grefi, ychwanegwch lond llwy fwrdd o flawd a dwy lwy fwrdd o gwrw du. Gallwch chi ychwanegu rhagor o gwrw du wedyn os oes angen.
 - Gwnewch yn siŵr fod y mêr wedi ei sgwpio allan o’r asgwrn. Ychwanegwch giwb stoc llysiau, 2 lwy de o fiso melys, a darn maint bawd o farchruddygl wedi ei ratio.
 - Blaswch, ac ychwanegu ychydig yn rhagor o gwrw du os oes angen yn ogystal â phupur du. Tewychwch y grefi nes ei fod wedi haneru.
 - Yn y cyfamser, torrwch y tatws yn julienne, toddwch fraster y cig eidion wagyu mewn padell a ffrio’r tatws tenau nes eu bod yn grenshllyd.
 - Ychwanegwch bupur a halen at y stêc wagyu Cymreig, yna’i ffrio yn ganolig-waedlyd gyda menyn Cymreig.
 - Tynnwch o’r badell i orffwys am 5 munud ac arllwys suddion y stêc i mewn gyda’r grefi.
 - Gratiwch gaws Black Bomber Eryri a’i gymysgu â’r un faint o mozzarella wedi’i ratio. Toddwch y cyfan yn ysgafn mewn padell, dylai fod yn feddal ac fel llinyn.
 - Sleisiwch ddau dalp mawr o fara surdoes lleol a thaenu menyn Cymreig da drosto.
 - Sleisiwch y stêc, ac ychwanegu Halen Môn.
 - Rhowch y sleisys stêc rhwng y bara surdoes, y sglodion tenau ar ei ben, yna’r caws wedi toddi a’r grefi. Os ydych chi eisiau pryd bras, helpwch eich hun i’r grefi. Os ydych chi eisiau pryd ysgafnach, rhowch lai o grefi.
 
