
Cynhwysion
- 1 stêc llygad yr asen neu frisged Cig Eidion Cymru PGI
- 1 rhôl brioche
- 1 winwnsyn, wedi ei sleisio ar ei hyd
- 1 pupur gwyrdd, yr hadau wedi eu tynnu ac wedi ei dduo
- Sesnin Cebabs Libanaidd Shawarma Angus & Oink neu gwnewch un eich hun (cynhwysion isod)
- Sesnin Menyn Garlleg Angus & Oink
- 1 ewin garlleg
- 1 llwy de pupur du mâl
- Caws Cheddar Cymreig neu Gruyère
- Menyn i daenu
Ar gyfer y cymysgedd Shawarma cartref:
- 2 lwy fwrdd paprica melys
- 1 llwy fwrdd pupur Jamaica
- 2 lwy de cwmin
- 2 lwy de tyrmerig
- 1 llwy de sinamon
- 1 llwy de powdr garlleg
- 1 llwy de powdr winwns
- ½ llwy de sinsir mâl
- ½ llwy de pupur Aleppo neu haenau pupur poeth (dewisol)
Ar gyfer y dip iogwrt:
- 1 winwnsyn mawr coch
- Olew llysiau
- Halen môr Cymreig a phupur du wedi’i falu’n ffres
- 1 cwpan iogwrt plaen
- 1 ewin garlleg, wedi ei ratio neu ei dorri’n fân iawn
- 1 llwy fwrdd cilantro wedi ei dorri’n fân neu 1½ llwy de mintys ffres wedi ei dorri, neu gyfuniad o’r ddau
- ¼ llwy de hadau cwmin wedi eu tostio a’u malu
- ½ llwy de hadau mwstard
35
Amser coginio
15
Amser paratoi
1
Yn gweini
- Coginiwch y stêc at eich dant a’i gadael i orffwys am 15 munud.
- Tra bod y stêc yn gorffwys, ffriwch y winwnsyn sydd wedi ei sleisio ar ei hyd fel ei fod yn coginio’n braf, fel llinyn a bron yn grimp. Ychwanegwch y pupur gwyrdd sydd wedi ei dduo a’i dro-ffrio am funud neu ddau. Cyngor – dwi’n duo’r pupur ar y barbeciw.
- Yna ychwanegwch lond llwy fwrdd o Sesnin Cebabs Libanaidd Shawarma Angus & Oink (neu gwnewch un eich hun) a’i adael i hisian fel fajita.
- Nawr ychwanegwch y sleisys blasus o stêc sydd wedi gorffwys, eu cymysgu’n sydyn a’u twymo – dyna’r llenwad.
- Nesaf, tostiwch dop y rhôl brioche, yna trowch y rhôl drosodd ac ychwanegu cymysgedd menyn garlleg Angus & Oink, neu fenyn hallt Cymreig, a’i thostio.
- Ychwanegwch Cheddar Cymreig wedi ei ratio neu gaws o’ch dewis, mae Gruyère yn wych i’w doddi o dan gril.
- Nawr rhowch y stêc, winwns a phupur yn y rhôl brioche gyda’r dip iogwrt ar yr ochr a mwynhewch!
- Chwisgiwch yr iogwrt, garlleg, cilantro neu fintys a’r cwmin mewn powlen fach.
- Mewn padell dros wres canolig, twymwch lond dwy lwy de o olew llysiau. Pan fo’r olew yn boeth, ychwanegwch yr hadau mwstard.
- Coginiwch hwn tan fod yr hadau mwstard yn popian ac yn arogli’n hyfryd – munud ar y mwyaf. Arllwyswch yr olew poeth a’r hadau mwstard dros y iogwrt a’i gymysgu. Cymysgwch y winwnsyn wedi ei grilio i mewn yn ysgafn ac ychwanegwch halen at y raita yn ogystal â llond llwy de o gwmin mâl.