
Ingredients
- 2 stêc bavette Cig Eidion Cymru PGI, 200g yr un
- 500g torth surdoes
- Olew
- Garlleg
- 2 shibwnsyn
- 1 afocado mawr, wedi’i falu
- ½ leim, sudd a chroen
- ⅓ tsili ffres, wedi ei dorri
- 125g caws glas
- Llond llaw o ddail berwr y gerddi
- Clwstwr bach o goriander
- 2 lwy de rhosmari ffres
- 2 lwy de teim ffres
- 1 llwy de cwmin
- Halen a phupur du ffres
- Ar gyfer y saws:
- 3 llwy fwrdd crème fraiche
- 2 lwy de surop masarn
- 1 llwy de paprica wedi’i fygu
- ½ llwy de powdr tsili
- ¼ llwy de powdr chipotle
- 2 lwy de sudd leim
20
Cooking Time
10
Prep Time
1
Serves
- Arllwyswch olew ar sleisys o fara surdoes a rhwbio'r garlleg ffres arno i roi rhyw awgrym bach, ac yna ei roi i un ochr nes bod y stêc wedi'i choginio.
- Yn y cyfamser, rhwbiwch y stêcs gyda'r rhosmari ffres, un ewin garlleg, y cwmin a phinsiad da o halen a phupur du ffres a llond llwy de o olew. Rhwbiwch i mewn i'r stêcs a’u gadael ar yr ochr am 2 awr i ddod i dymheredd yr ystafell.
- Coginiwch y stêcs at eich dant ar radell danbaid ac yna gorffwyswch y cig. Tra bod y cig yn gorffwys, golosgwch sleisys trwchus o'r shibwns.
- Gan ddefnyddio'r bara surdoes, mopiwch y suddion o'r stêc ac yna golosgwch y tu mewn i'r bara.
- Nesaf, malwch yr afocado'n fras gyda phestl a morter, ychwanegwch y leim a'r tsili ffres a phinsiad o halen.
- Ar gyfer y saws crème fraiche masarn a chipotle, cymysgwch y cynhwysion i gyd gyda'i gilydd.
- I adeiladu'r frechdan, taenwch haenen dda o'r gymysgedd afocado ar waelod y frechdan, yna ychydig o ddail berwr y gerddi bob yn ail gyda haenau o sleisys o'r stêc a'r shibwns.
- Unwaith i chi orchuddio'r gwaelod rhowch ambell lwyaid o afocado ar y cig a malu’r caws glas yn fras ar ei ben.
- Yn olaf, arllwyswch y saws chipotle ar ben y cyfan yn ysgafn a rhowch unrhyw saws sydd dros ben i'r naill ochr er mwyn ei ychwanegu wrth fwyta. Mae hon yn frechdan wych i’w rhannu!