Mynd i'r cynnwys

Bowlen Poke Cig Oen Cymru Môr y Canoldir

Cynhwysion 

  • 2 stêc coes Cig Oen Cymru
  • Marinâd:
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 3 clof o arlleg wedi’i gratio
  • ½ llwy de o rosmari sych
  • 1 llwy de o gwmin sych
  • Halen a phupur
  • Sudd ½ lemwn
  • Ar gyfer y bowlenni:
  • 150g o gwscws perlog wedi’i goginio mewn stoc cyw iâr
  • Salad Groegaidd bach wedi’i wneud gyda thomatos ceirios, feta, ciwcymbr wedi’i ddeisio, winwns coch wedi’u sleisio.
  • 1 tun o ffacbys wedi’u draenio
  • Slaw wedi’i wneud gyda chyrlau moron wedi’u plicio’n denau, dail salad a winwns coch wedi’u sleisio
  • Dresin:
  • 2 lwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd
  • 2 lwy fwrdd o tahini
  • Sudd ½ lemwn
  • 3 clof o arlleg, wedi’u gratio
  • Halen a phupur
  • ½ llwy de oregano sych

10
Amser coginio
60
Amser paratoi 
2
Yn gweini
  • Rhowch holl gynhwysion y marinâd mewn bowlen a chymysgwch yn dda, yna ychwanegwch y steciau a'u gorchuddio â'r cymysgedd.
  • Gorchuddiwch ac oergellwch am awr neu fwy.
  • Paratowch yr holl gynhwysion ar gyfer y bowlenni.
  • Mewn bowlen fach cymysgwch gynhwysion y dresin gyda'i gilydd.
  • Cadwch yn yr oergell tan ei weini. Coginiwch y cig oen trwy ei ffrio mewn padell boeth am 3-5 munud ar bob ochr, lapio mewn ffoil i orffwys wrth gydosod y bowlenni.
  • Unwaith y bydd y cynhwysion wedi'u rhoi yn y bowlenni, rhowch yr oen wedi'i sleisio a'r dresin ar ei ben.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025