Pryd reis o Gorea yw Bibimbap, wedi’i wneud fel arfer gyda sylfaen o reis gwyn grawn byr, gyda llysiau wedi’u ffrio, cig wedi’i farinadu, ac wy wedi’i ffrio ar ei ben.
Yr ychwanegiad terfynol hollbwysig yw joch hael o saws sbeislyd, hynod flasus wedi’i wneud o bast gochujang – past tsili wedi’i eplesu Coreaidd â blas poeth, sawrus, hallt, melys unigryw. Os ydych chi’n caru Kimchi, rydych chi eisoes yn caru gochujang!
Ar gyfer y bibimbap Cig Oen Cymru yma, rydw i wedi dewis reis brown oherwydd mae’r blas cneuaidd yn ategu’r cig oen, ond gallwch chi ddefnyddio reis gwyn neu reis swshi os yw’n well gennych bryd mwy traddodiadol.
- Os ydych chi’n coginio’ch reis brown o’r dechrau, gwnewch hyn yn gyntaf gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn, a fydd yn debygol o gymryd tua 30 munud.
- Gwnewch y saws bibimbap trwy gymysgu’r past gochuang, y garlleg, y saws soi, yr olew sesame, y siwgr, y finegr reis, a’r mirin mewn powlen fach.
- Rhowch y stêcs coes Cig Oen Cymru ar blât, eu sychu gydag ychydig o bapur cegin ac yna eu gorchuddo â 2-4 llwy fwrdd o’r saws, gan ei rwbio dros bob ochr. Gorchuddiwch y cyfan a’i roi yn yr oergell i farinadu am 30 munud.
- Tynnwch y stêcs allan a chynhesu ychydig o olew sesame yn eich padell boeth. Seriwch y stêcs am 2 funud bob ochr, neu lai os ydyn nhw’n eithaf tenau. Rydych chi eisiau i’r tu allan garameleiddio ond y tu mewn i aros yn binc gan y bydd y cig oen yn parhau i goginio wrth iddo cael ei gymysgu i mewn i’r reis poeth nes ymlaen.
- Gorchuddiwch y cig oen a rhowch 5 munud iddo orffwys. Os ydych chi’n defnyddio cwdyn reis ar gyfer y microdon, gallwch ei goginio nawr.
- Cynheswch ychydig o olew sesame mewn padell boeth a ffriwch y llysiau fesul un am 1-2 funud yr un nes eu bod wedi coginio, gan eu gosod ar blât cynnes, wedi’i orchuddio wrth fynd. Gallwch ychwanegu joch o soi at unrhyw un neu bob un ohonynt os dymunwch, ac ysgeintiad o hadau sesame i’r sbigoglys i gael crensh a blas.
- Unwaith y bydd y cig oen wedi gorffwys, sleisiwch o’n denau yn erbyn y grawn.
- Yn olaf, ffriwch yr wyau, gan geisio’u cael yn grimp ar yr ymylon gyda melynwy trwchus.
- Nawr casglwch eich bibimbap at ei gilydd – rhowch y reis poeth i mewn i waelod eich powlenni, yna rhowch bob llysieuyn yn ei dro ar ei ben, yna’r cig oen, ac yn olaf ychwanegwch yr wy newydd ei ffrio.
- Diferwch y saws bibimpap dros y cyfan a’i weini. I’w fwyta, ewch amdani a chymysgu popeth gyda’i gilydd i mewn i’r reis poeth. Os nad ydych chi wedi arfer â gwres gochuang, dechreuwch gydag ychydig bach o saws i’w weini ac yna ychwanegwch fwy at eich dant.