- Rhowch holl gynhwysion y saws mewn powlen fawr a chwisgiwch yn ysgafn i gymysgu’n dda.
- Rhowch bupur a halen ar y cig eidion.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a, dros wres uchel, browniwch y cig yn dda ar bob arwyneb.
- Trosglwyddwch y cig i’r popty araf neu mewn dysgl gaserol ddofn ac arllwyswch gynhwysion y saws dros y cig.
- Coginiwch ar dymheredd isel yn y popty araf am 6-8 awr, neu 4 awr yn y popty ar 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2, nes bod y cig yn dyner iawn ac yn rhwygo’n hawdd.
- Tynnwch y cig allan o’r saws a, gan ddefnyddio ffyrc, rhwygwch y cig. Ychwanegwch rywfaint o’r saws neu’r cyfan at y cig wedi’i dorri’n fân a’i ddefnyddio i lenwi’r tacos neu’r cwpanau letys. Rhowch y dip leim siarp, bresych coch wedi’u piclo a’r coriander wedi’i dorri ar ei ben.
Plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.2 – 1.5kg brisged neu balfais Cig Eidion Cymru PGI, yn gyfan
- ½ llwy de halen
- ½ llwy de pupur ffres mâl
- Olew i ffrio
Ar gyfer y saws:
- 2 lwy fwrdd past chipotle
- 500ml stoc cig eidion neu gwrw tywyll
- 100ml finegr seidr afal
- 2 leim, dim ond y sudd
- 6 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
- 1½ llwy fwrdd cwmin mâl
- 2 lwy de oregano sych
- ½ llwy de clofs mâl
Ar gyfer y dip leim siarp:
- 150ml crème fraiche neu hufen sur
- 1 leim, sudd a chroen
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd saws tsili melys
I weini:
- Coriander wedi’i dorri
- Bresych coch wedi’u piclo
- Cwpanau letys bach
- Tacos neu tortillas