Er eu bod nhw’n flasus iawn, mae cymaint mwy i Gig Eidion Cymru na byrgyrs, stêcs a chinio dydd Sul – mae mor hyblyg! Darganfyddwch flasau newydd o bedwar ban y byd ar eich antur goginio gyda’n detholiad gwych o fwyd y byd. Chewch chi mo’ch siomi, mae hynny’n sicr.
Blasu’r byd o’ch cartref
Asiaidd
Mae Asia yn gyfandir enfawr, ac mae’n cynnig ystod eang o fwydydd. Awn ni ar daith trwy ddiwylliannau a bwyd o ryseitiau Dwyrain Asia fel pryd tro-ffio cig eidion tanbaid, cig eidion creisionllyd Tsieineaidd a chyri katsu cig eidion campus i is-gyfandir India lle rydym ni’n eich helpu i roi tro ar glasuron cyri cig eidion o rysáit madras cig eidion hyfryd i rendang cig eidion rhagorol.
Ffrengig
Gyda chanrifoedd o ddylanwadau coginio o bob cwr o’r byd, mae prydau bwyd Ffrengig modern yn gyfystyr â bwyd moethus a chogyddion o’r radd flaenaf. Dyma gartref nouvelle cuisine, mudiad sy’n canolbwyntio ar brydau ysgafnach, mwy ffres, ac mae gan Ffrainc lawer o fwydydd rhanbarthol traddodiadol hefyd. Rhowch gynnig ar glasuron fel steak au poivre neu ein rysáit bourguignon cig eidion – sydd lawn cystal mewn pastai llawn sbarion! – neu syniadau newydd fel ein goujons cig eidion.
Eidalaidd
Mae bwyd Eidalaidd yn adnabyddus ledled y byd, ac mae’n canolbwyntio ar gynhwysion o safon a wneir yn dda felly beth well na’n Cig Eidion Cymru ni? Gyda phrydau clasurol, adnabyddus fel lasagne cig eidion, calzone a pizzas cig eidion, dyma fwyd da ar ei orau.
America Ladin
O tortillas cig eidion i tacos cig eidion, chimichurri i tsili cig eidion, mae bwyd America Ladin yn gweddu i bob chwaeth. Ychwanegwch rywbeth arbennig at eich bwydlen wythnosol gyda phastai enchilada neu beth am greu cinio dydd Sul amgen gyda burrito pwdin Swydd Efrog – gwych neu gwarthus, chi bia’r dewis!
Gogledd America
Mwynhewch flasau Gogledd America gyda’n ryseitiau cig eidion barbeciw a gril blasus. Cig eidion wedi’i goginio’n araf yn llawn dop o flas, felly am ginio dydd Sul llawn steil neu ddanteithion i’w bwyta wrth wylio gêm bwysig, dywedwch “yee-haw” i’r prydau hyn!
Gweddill y byd
Mae’n fyd mawr! Er nad ydyn nhw’n ffitio i mewn i rai o’r categorïau uchod, allwn ni ddim anwybyddu’r danteithion hyn. Mae ein pryd koftas cig eidion yn deyrnged i fwyd Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol, gyda’r llysiau cudd yn berffaith i gadw’r bwytawyr mwyaf ffyslyd yn hapus, tra bod ein stroganoff cig eidion hawdd yn bryd cynnes perffaith â gwreiddiau Rwsiaidd.
Dal i chwilio am rywbeth i demtio eich blasbwyntiau? Ewch i’n tudalennau ryseitiau am dunelli o ysbrydoliaeth ryseitiau blasus.