facebook-pixel

Prydau Cig Oen Cymru Nadoligaidd i’w ‘hoffi a’u rhannu’ gydag anwyliaid

Rhag 14, 2022

I ddathlu’r Ŵyl, rydyn ni wedi creu partneriaeth â dau arbenigwr bwyd ar-lein cyffrous a rhannu eu prydau Cig Oen Cymru gorau gyda chi ar gyfer y Nadolig.

Mae’r gogyddes gartref a’r blogiwr bwyd Anna Stanford o Anna’s Family Kitchen a’r cogydd hyfforddedig a’r seren ar-lein boblogaidd Chris Baber yn credu mewn gwneud coginio cartref yn syml, yn iachus ac yn flasus.

Gyda nifer enfawr o ddilynwyr ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol a llyfrau coginio dilynol, mae Anna a Chris yn rhannu cannoedd o’u ryseitiau ysbrydoledig, yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor i helpu i wneud coginio cartref yn haws i bawb.

Cariwch ymlaen i ddarllen am ryseitiau Cig Oen Cymru Nadoligaidd hyfryd Anna a Chris, a byddwch yn barod i groesawu anwyliaid i’ch cartref dros yr Ŵyl mewn dim o dro.

Seren y sioe

Mae ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhwygo gyda chlementin a phomgranad Anna nid yn unig yn bryd anhygoel o ran ei olwg, ond mae hefyd yn hawdd iawn ei baratoi a’i goginio. Mae’n saig syfrdanol o gig oen blasus, llawn sudd, wedi’i goginio ag aroglau a blasau nodweddiadol y Nadolig.

Gwyliwch Anna yn ei wneud yma, neu am y rysáit lawn ewch yma.

Campwaith di-ffws

Mae rysáit Chris o Gig Oen Cymru rhost gyda garlleg a rhosmari a thatws rhost yn hawdd i’w pharatoi, yn hynod o flasus ac yn ganolbwynt trawiadol ar gyfer cinio dydd Nadolig. Cig oen suddlon, melys wedi’i weini â thatws rhost euraidd crensiog – bydd pawb wrth eu bodd.

Gwyliwch Chris yn ei wneud yma, neu am y rysáit lawn ewch yma.

Mwynhewch!

Mae eich traddodiad Nadoligaidd newydd yn dechrau yma…

Share This