Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y wobr fawreddog hon yma. Ond un fantais arbennig o bwysig o statws PGI yw ei fod yn dweud wrthych yn union o ble mae eich cig wedi dod. Mae’r awdurdod cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithredu fel gwarcheidwad dynodiadau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Rydym yn sicrhau bod ein cadwyn gyflenwi yn cyrraedd safonau uchel iawn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu olrhain pob anifail yn llawn o’r cae i siop y cigydd neu’r archfarchnad. Rhaid i bob lladd-dy a gwaith torri sy’n defnyddio’r dynodiadau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gael eu cymeradwyo gan HCC. Cynhelir ein harolygiadau yn flynyddol. Rhaid i’n cig coch gydymffurfio â holl ofynion rheoleiddio’r llywodraeth a chanllawiau arfer gorau. Ac os yw unrhyw fanwerthwr yn labelu ei gig oen neu ei gig eidion fel un sydd â statws PGI pan nad oes ganddo, mae hyn yn drosedd a gallai arwain at erlyniad gan swyddogion Safonau Masnach. Felly nawr eich bod chi’n gwybod y gallwch chi ymddiried yn ein cig, gallwch chi ddechrau coginio! Cymerwch olwg ar ein detholiad gwych o ryseitiau blasus Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru i gael rhywfaint o ysbrydoliaeth.
