Nid dim ond dyddiau oer a nosweithiau tywyllach yw mis Hydref; mae’n gyfle i ddianc i’r gegin am gwpl o oriau, twrio trwy jariau sbeisys a chreu cyri godidog gyda Chig Oen Cymru!
Ac os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch chi, rydyn ni wedi creu tudalen we arbennig ar gyfer ryseitiau cyri Cig Oen Cymru (a Chig Eidion Cymru)! O biryani i jalfrezi, mae rhywbeth at ddant pawb – cymerwch olwg!
Wythnos o wres
Mae Wythnos Genedlaethol Cyri (4-10 Hydref) yn nodi 23 mlynedd o ddathlu cyris. Felly p’un a ydych chi’n hoffi cyris ysgafn braf neu rai gwirioneddol sbeislyd, dyma’r wythnos i estyn eich potiau a’ch sosbenni a gwneud cyri blasus gyda Chig Oen Cymru i’ch teulu a ffrindiau.
Cynnwrf sbeislyd…
Ydych chi erioed wedi trio ail-greu cyri o fwyty gartref ond wedi methu’n llwyr? Mae The Curry Guy, sef Dan Toombs, wedi llwyddo i nodi cynhwysion allweddol prydau bwytai cyri dros y blynyddoedd. Mae’n cyfaddef nad yw cael gafael ar y wybodaeth gyfrinachol hon gan y ‘cylch ymddiriedaeth’ sbeislyd wedi bod yn hawdd.
Ond mae ei ddyfalbarhad a’i angerdd dros gyris (ac ychydig o arsylwi yma ac acw) wedi talu ar ei ganfed, ac mae bellach yn taflu goleuni ar yr hyn sy’n creu pryd Bwyty Indiaidd Prydeinig. Gan bod yr holl wybodaeth honno am gyris ganddo, mae’n bleser rhannu ei rysáit cyri Champaran handi Cig Oen Cymru gyda chi.
Blogio blasau bendigedig
Hefyd yn swyno’i dilynwyr gyda phrydau cyri blasus mae’r blogiwr bwyd Zainab Pirzada. Mae sianel cyfryngau cymdeithasol Zainab, Cooking with Zainab, yn llawn dop o syniadau blasus – rhai melys a sawrus. Mae ei phrydau sbeislyd sydd wedi’u gwneud â chig oen yn arbennig o ddeniadol. Yma mae hi’n rhannu gyda ni ei hoff rysáit cyri Cig Oen Cymru a sbigoglys i chi roi cynnig arni gartref.