Mynd i'r cynnwys

Mae Brechdan i’r Brenin yn ei hôl ac mae’n fwy blasus nag erioed!

Ydy wir - mae'r gystadleuaeth frechdan stêc orau, fwyaf blasus yn ei hôl, ac hefyd yn dychwelyd mae ein beirniad a’r cogydd o fri Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts. Ydych chi'n meddwl bod gennych chi rysáit brechdan stêc anhygoel? A allai eich cais fachu sylw a pharch y cogydd cig campus? Mwy o gategorïau, mwy o wobrau! Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth y llynedd, rydym ni wedi ehangu ar y syniad gwreiddiol, felly eleni rydym ni’n cyflwyno mwy o gategorïau ynghyd â’r wobr fawreddog o Chris ei hun yn coginio gwledd Cig Eidion Cymru i chi a’r teulu. Cymerwch gip ar yr hyn y gallech chi ei ENNILL!
  • Prif enillydd: Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts yn coginio gwledd yn eich cartref + barbeciw / Pwll Tân
  • Ymgais gan blentyn (hyd at 16 oed ac o dan oruchwyliaeth): gwerth £150 o offer coginio
  • Ymgais Barbeciw: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion
  • Ymgais Anarferol: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion
  • Defnydd gorau o gynnyrch Cymreig: Hamper bwyd a diod o Gymru
  • Ymgais orau ar fideo: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion
Felly, os yw hynna wedi dod â dŵr i’r dannedd, a'ch bod chi wedi darllen y Telerau ac Amodau, dyma sut i gystadlu mewn pedwar cam hawdd:
  1. Dewiswch eich stêc. Ewch draw i’ch siop cigydd neu archfarchnad leol, naill ai yn y siop neu ar-lein, a phrynwch eich stêc(s) Cig Eidion Cymru PGI.
  2. Ewch ati i goginio a byddwch yn greadigol. Coginiwch eich stêc at eich dant a'i gweini yn eich brechdan unigryw - defnyddiwch eich dychymyg - does dim rhaid defnyddio bara, hyd yn oed!
  3. Rhannwch eich creadigaeth gyda'r byd! Rhowch eich brechdan ar blat a phostio delwedd neu fideo ohoni, ynghyd â'r rysáit holl bwysig ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BrechdanirBrenin yn ogystal â'n tagio ni yn eich neges: Facebook: @PGIWelshBeef | Instagram: @pgiwelshbeef | Twitter: @PGIWelshBeef
  4. Ac… ymlaciwch. Rydych chi wedi gwneud eich rhan, tro Chris yw hi nawr. Unwaith y bydd y cynigion wedi cyrraedd, bydd Chris yn dewis y ceisiadau gorau a’r prif enillydd.
Angen ysbrydoliaeth? Cymerwch gip beth wnaeth Chris neu ewch i dudalen y gystadleuaeth... [embed]https://youtu.be/VlX_yq4-3ko[/embed]

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025