facebook-pixel

Fferm Pen y Gelli: Gweithio gyda natur i feithrin y borfa

Tach 7, 2023

Gyda chefndir trawiadol cadwyn mynyddoedd Eryri a chipolwg disglair o’r Fenai ysblennydd, mae Fferm Pen y Gelli wedi’i lleoli ychydig y tu allan i dref hanesyddol Caernarfon, gogledd Cymru.

Yma mae Alwyn Phillips yn ffermio ei 200 o ddefaid Poll Dorset a 200 o ddefaid Texel, ynghyd â 30 o wartheg pedigri Limousin ac un tarw.

Gyda dros bedwar degawd o gofnodi perfformiad yn rhoi ffigurau manwl gywir ar gyfer ei braidd caeedig, ynghyd â’i angerdd diwyro dros droi glaswellt yn fwyd o safon, nid yw’n syndod bod Alwyn wedi cyrraedd rhestr fer Ffermwr Defaid y Flwyddyn Gwobrau Ffermio Prydain 2023 y Farmers’ Guardian yn ddiweddar.

I rai, efallai ei bod yn ymddangos fel unrhyw olygfa fferm arall, gydag anifeiliaid yn pori yn y caeau, ond mae defaid a gwartheg Alwyn ychydig yn fwy sionc eu cam. Fodd bynnag, nid yr awyr iach yn unig sy’n gyfrifol am hyn, ond arbenigedd ein ffermwyr Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, sy’n gweithio mewn cytgord â byd natur.

Mae ymrwymiad Alwyn i reoli’r tir pori, gyda chymorth system bori arloesol, yn sicrhau bod ei ddefaid a’i wartheg yn cael yr holl faeth sydd ei angen arnynt drwy gydol y flwyddyn – dim mwy a dim llai.

Ond nid yr hyn y gallwch ei weld uwchben y ddaear yw’r unig beth sy’n bwysig, mae stori arall i’w hadrodd am yr hyn sy’n digwydd oddi tani.

Eglurodd Alwyn:

“Pridd yw’r adnodd mwyaf gwerthfawr ar y fferm. Heb bridd iach, nid oes glaswellt iach i fwydo’r anifeiliaid ac, yn y pen draw, y defnyddiwr. Mae cymaint yn y pridd o ran bioamrywiaeth. Mae pryfed genwair yma yn ailgylchu’r pridd, sy’n helpu’r borfa i dyfu. Mae faint o ddeunydd organig sydd yn y pridd hefyd yn cadw’r carbon yn y pridd.”

Tra bod mwydod yn hoff o ddeunydd organig, gan ei dorri i lawr o fewn y pridd, mae’n creu gwrtaith naturiol, gan ychwanegu maetholion hanfodol. Nid yw mwydod yn hoffi pridd sych, felly mae cadw’r pridd yn llaith hefyd yn hanfodol.

Aeth Alwyn yn ei flaen:

“Pan mae gennych chi bridd iach, gyda strwythur da, mae’n cadw dŵr ac yn caniatáu i’r gwreiddiau fynd yn ddyfnach. Mae hyn yn helpu i atal dŵr wyneb rhag sefyll ac achosi dŵr ffo. Y pridd sy’n gyfrifol am y cyfan mewn gwirionedd!”

Mae Alwyn yn rheoli pori ei anifeiliaid yn ofalus, fel eu bod yn cael y gorau ohono.

“Yn 2015 dechreuon ni TechnoGrazing a gosod 38 hectar o badogau lled-barhaol ar y fferm i gylchdroi pori bob 2-3 diwrnod. Yna rydyn ni’n caniatáu i’r padogau orffwys a gwella. Mae hyn yn annog y meillion i ffynnu, sy’n gyfoethog mewn nitrogen.”

Mae’r dull hwn o ffermio yn ystyried ac yn parchu natur yn ofalus, a chan fod meillion gwyn yn sefydlogwr nitrogen, gan ei amsugno o’r atmosffer, mae llai o ddibyniaeth ar wrtaith nitrogen sy’n cael ei brynu. Mae’r cyfan yn gweithio’n effeithlon mewn modd cylchol.

Mae bod yn rhagweithiol a gwneud defnydd o dechnoleg yn allweddol i ffermio manwl gywir. Eglurodd Alwyn:

“Mae ein gorsaf dywydd yn caniatáu inni fonitro’r tywydd 24 awr y dydd, drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn ein galluogi i reoli ein strategaeth bori yn unol â hynny. Rydyn ni hefyd yn monitro gostyngiad yn y borfa. Fel un o’r 50 o ffermydd CEIL Grass Check ar draws y DU, rydyn ni’n mesur ein padogau’n wythnosol ac yn anfon dau sampl o laswellt bob pythefnos – un i wirio ei ansawdd a’r llall i wirio ei gynnwys mwynol.”

Ond nid yw Alwyn wedi canolbwyntio ei sylw o ran cynhyrchiant ar wyddoniaeth ac effeithlonrwydd y fferm yn unig, mae hefyd wedi neilltuo darnau o’i dir ar gyfer bywyd gwyllt.

“Mae gennyn ni ffynnon naturiol ar y fferm sy’n bwydo pwll. Rydyn ni wedi caniatáu i ardal y pwll ail-wylltio. Mae’r pwll yn hafan i fywyd gwyllt gan gynnwys pryfed, hwyaid, ieir dŵr cyffredin ac un crëyr glas! Mae’r coed o amgylch hefyd yn darparu mannau nythu i adar.”

Gydag arbenigedd Alwyn a’i sylw i fanylion, nid yw’n syndod ei fod yn cynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus y mae galw mawr amdano ledled y byd.

“Gallwch chi flasu’r gwahaniaeth gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae gan Gymru’r hinsawdd a’r ddaearyddiaeth berffaith i dyfu glaswellt, ac yn fy marn i, mae cig sy’n cael ei fwydo ar laswellt yn blasu’n well. Mae hefyd yn uwch mewn asidau brasterog Omega 3 sy’n fuddiol i iechyd.”

Pan ofynnwyd iddo beth mae’n ei fwynhau fwyaf am ffermio, atebodd Alwyn:

“Geneteg, a sut y gellir ei ddefnyddio i wella ein cig oen. Y ddwy elfen bwysig gyda ffermio defaid yw gallu cynhyrchu Cig Oen Cymru o safon o dir pori a dod o hyd i ffyrdd defnyddiol o ddefnyddio’r gwlân.

 

“Byddai’n dda symud oddi wrth ffibrau synthetig a defnyddio deunyddiau naturiol fel gwlân. Nid yn unig y mae gan wlân briodweddau insiwleiddio rhagorol ond mae hefyd yn dal carbon. Mae’n ddeunydd gwydn iawn nad yw’n niweidio’r amgylchedd, yn wahanol i waredu deunyddiau synthetig.”

Wrth edrych i’r dyfodol, gorffennodd Alwyn trwy ddweud:

“Mae defaid a gwartheg wedi esblygu dros y canrifoedd i fwyta glaswellt ac addasu i dirwedd Cymru, felly rwy’n meddwl os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn wynebu’r risg o golli’r gallu i droi glaswellt yn fwyd a phrotein o safon uchel.

 

“Rwy’n meddwl, os gallwn gynyddu ein hunangynhaliaeth o fwyd o ansawdd y gellir ei olrhain, gydag ôl troed carbon isel, bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair i ffermio. Does ond angen i ni fabwysiadu meddylfryd gwahanol a mynnu cig sy’n cael ei fwydo ar laswellt ac sy’n cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy. P’run bynnag, mae cynhyrchu glaswellt hefyd yn rhatach – mae’n naturiol.”

Share This