Ar gyrion prifddinas Cymru, Caerdydd, mae bryn mawr. Fodd bynnag, nid bryn cyffredin mo hwn. Dyma un o fryniau mwyaf hanesyddol ac enwog de Cymru.
Mae gan Fynydd y Garth, sy’n cynnwys pedair tomen gladdu o’r Oes Efydd, olygfeydd panoramig pellgyrhaeddol sy’n edrych dros Fannau Brycheiniog, ac ar ddiwrnod clir, cyn belled â Gwlad yr Haf ac arfordir Dyfnaint.
Ag yntau unwaith yn ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel ac yn ddiweddarach, y ffilm, ‘The Englishman Who went Up a Hill but Came Down a Mountain, mae Mynydd y Garth wedi cael tipyn o enwogrwydd. Fodd bynnag, mae gan y tir comin hwn, sy’n cyrraedd 1,007 troedfedd uwch lefel y môr, waith pwysig o ddydd i ddydd hefyd – darparu porfa i dda byw.
Saif Fferm Garth Uchaf, sy’n swatio ar ysgwydd dde-orllewinol o’r mynydd, ym Mhentyrch. Er mai’r fferm hon yn unig sy’n defnyddio Mynydd y Garth, tua 200 erw, ar gyfer ei stoc, mae ganddi hefyd 500 erw ei hun, gan gynnwys porfeydd a choetir helaeth.
Mae pedair cenhedlaeth o’r teulu Williams wedi ffermio yng Ngarth Uchaf, ynghynt fel ffermwyr tenantiaid ond yn 1959, sefydlodd y gŵr a gwraig Elwyn a Sue Williams y fferm, gyda’u mab Edward (Ted) a’i wraig Karen yn rheoli’r fferm yn ddiweddarach.
Heddiw, mae’r fferm yn cael ei rheoli gan Ben ac Ethan, dau fab Edward a Karen, ac mae’n cynnwys diadell o bron i 700 o famogiaid (Mynydd De Cymru, croesfridiau Suffolk, Mynydd Du Cymreig) ac 20 o hyrddod (Mynydd De Cymru a Mynydd Du Cymreig). Mae gan y teulu Williams hefyd fuches o wartheg Duon Cymreig pedigri yn cynnwys 46 o wartheg sugno a dau darw ac ychydig o foch Cymreig.
Dywedodd y ffermwr pedwerydd genhedlaeth, Ben Williams,
“Yn wahanol i ardaloedd mwy gwledig Cymru, a’r ffaith ein bod ni ar gyrion Caerdydd, nid oes cymuned ffermio yma fel y cyfryw. Fodd bynnag, mae Mynydd y Garth yn denu llawer o gerddwyr, sy’n ychwanegu at yr ymdeimlad o gymuned yma. Mae’n wych gweld y cyhoedd yn gwerthfawrogi’r tirwedd yr ydym yn ffodus i fod yn gweithio arno.”
Mae’r fferm wedi arallgyfeirio dros y blynyddoedd ac yn cynnig gwasanaeth lleoliadau i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu yn ogystal â llogi cae ar gyfer priodasau a digwyddiadau dethol. Ac eto, gan aros yn driw i’w gwreiddiau a chadw traddodiad o fewn y gymuned leol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r fferm wedi ailsefydlu ei ffair wledig a’i dawns sgubor, a oedd yn arfer cael eu cynnal yn yr 1980au.
Gan fod Mynydd y Garth yn heneb gofrestredig, mae’r teulu Williams yn chwarae rhan annatod fel ceidwaid y tir. Mae eu rheolaeth o bori yn caniatáu i fioamrywiaeth ffynnu, tra’n sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael y maeth gorau, gan fwydo ar laswellt a pherlysiau naturiol.
Wrth siarad am yr ymdrech a wnaeth ei deulu o’i flaen i warchod yr amgylchedd, dywedodd Ben,
“Gwnaeth fy nhad-cu waith ar y bryn yn y 1950au, a wnaeth wella’r fioamrywiaeth yma yn fawr. Gall pobl sy’n ymweld â Mynydd y Garth heddiw werthfawrogi byd natur ar ei orau – gydag adar fel ehedyddion a chudyllod coch yn ffynnu.”
Mae rhannau eraill o’r fferm hefyd wedi elwa o ymrwymiad ac ymroddiad y teulu Williams i gefnogi cynefinoedd bywyd gwyllt dros yr hanner canrif diwethaf.
Esboniodd Ben,
“Mae gennym amgylchedd cyfoethog gyda rhywogaethau glaswellt brodorol a choetir brodorol. Rydym wedi plannu 80,000 o goed dros y blynyddoedd ac wedi parhau i blygu gwrychoedd am yr 20 mlynedd diwethaf, sy’n hafan i fywyd gwyllt. Mae digon o orchudd coed, felly mae llawer o adar yn nythu yma.”
Wrth siarad am rôl da byw yn rheolaeth a bioamrywiaeth y tir, dywedodd Ben,
“Mae ein defaid yn cadw’r glaswellt yn fyr, sy’n creu amodau tyfu delfrydol i ffyngau – mae gennym gapiau cwyr yn tyfu yma hyd yn oed, sy’n eithaf prin. Mae’r defaid hefyd yn sicrhau na all un rhywogaeth o blanhigyn ddominyddu’r glaswelltir.
“Mae’n dda gwybod, tra bod ein defaid a’n gwartheg yn pori yn yr amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol hwn, eu bod yn helpu i’w warchod. Rwy’n meddwl mai dyma sy’n gwneud Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mor arbennig. “
Gall cwsmeriaid brynu cynnyrch y teulu Williams ar-lein. Mae’r cynnyrch yn cael ei baratoi mewn cigyddion ar y safle ar garreg y drws lle mae’r anifeiliaid wedi pori.
Ychwanegodd Ben,
“Nid yw’r glaswelltir brodorol yn cael ei ffermio’n ddwys yma. Mae’r anifeiliaid yn cael eu tyfu ar gyfradd arafach, felly rydych chi’n cael marciau braster gwell yn y cig. Pan fydd ein cwsmeriaid yn gweld lle mae ein hanifeiliaid yn pori, mewn amgylchedd naturiol, ymysg y glaswelltir brodorol a’r grug, rwy’n meddwl y gallant flasu’r gwahaniaeth.”
Wrth sôn am ei gariad at ffermio, dywedodd Ben,
“Rwy’n meddwl mai’r peth rwy’n ei fwynhau fwyaf am ffermio yw gwella ein cynhyrchiant o fwyd flwyddyn ar ôl blwyddyn – ac mewn ffordd gynaliadwy. Dylai’r ddau beth hyn fynd law yn llaw bob amser.
“Rwy’n credu bod angen mwy o gysylltiad rhwng y ffermwr a’r defnyddiwr. Rwy’n meddwl y dylai ffermwyr allu adrodd eu stori – mae llawer i’w ddweud – er mwyn i bobl allu gwerthfawrogi’r cysylltiad rhwng cynhyrchu cig, cynaliadwyedd a chymuned. Rydw i wir yn credu bod gan ffermio ddyfodol disglair.”