Ydych chi'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng syrlwyn ac ystlys las neu goes a lwyn?
Mae aelodau arbenigol ein Clwb Cigyddion yn gallu gwneud hynny’n iawn a gallan nhw eich helpu chi i ddewis y toriadau a’r darnau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI gorau. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yng nghalon eu cymunedau a thrwy brynu gan un o'n haelodau gallwch fod yn hyderus yn ansawdd eu cynnyrch.
Felly, i'ch helpu i ddysgu mwy am y gwaith da maen nhw’n ei wneud, rydyn ni wedi lansio dwy sianel cyfryngau cymdeithasol newydd ar Instagram a Facebook lle gallwch chi ddod i adnabod aelodau ein Clwb Cigyddion, cael awgrymiadau arbenigol a mynediad at gystadlaethau unigryw. Byddwch chi’n arbenigwr mewn dim o dro!