Mynd i'r cynnwys

Ewch amdani gyda’n cystadleuaeth Cig Eidion Cymru

Efallai ei bod hi'n amser rhyfedd o'r flwyddyn iddo ddigwydd, ond mae bwrlwm y bêl gron yn berwi. Mae Cymru’n paratoi i wneud eu hymddangosiad cyntaf yn y ffeinals mewn 64 mlynedd, felly rydyn ni’n cymryd rhan drwy lansio ein cystadleuaeth newydd ar thema pêl-droed. Yn union fel pos cylchgrawn neu bapur newydd hen ffasiwn, rydyn ni'n troi’r cloc yn ôl i ddod â'n cystadleuaeth newydd i chi. Sylwch ar y bêl i ennill y cyfan! Gyda delwedd o gêm olaf Cymru yn y twrnamaint ym 1958, rydyn ni’n rhoi cyfle i’n dilynwyr Cig Eidion Cymru ennill un o bum hamper moethus Cig Eidion Cymru trwy chwarae gêm o Ble mae’r Bêl! Ble mae’r Bêl? Ewch draw i’n sianeli cymdeithasol, hoffwch bost y gystadleuaeth, dilynwch ein tudalen Cig Eidion Cymru a thagiwch ffrind, a rhowch eich cynnig gorau i ni yn y sylwadau. Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Twitter ac Instagram. Os ydych chi'n meddwl y gallwch ddyfalu'r sgwâr cywir, ewch i'n sianeli nawr! Pob lwc! Termau ac amodau Blas ar bêl-droed Diddanu teulu a ffrindiau yn ystod y twrnamaint? Croesawch flasau o bedwar ban byd, wedi’u hail-ddychmygu gyda Chig Eidion Cymru. Ewch i'n tudalen Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang. ar gyfer ryseitiau ac ysbrydoliaeth.

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025