facebook-pixel

Prydau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar gyfer y popty araf

Chw 19, 2025

Cogydd cartref neu llanast llwyr? Efallai mai coginio’n isel ac yn araf yw’r ffordd ymlaen…

Yn aml gall rhoi prydau bwyd maethlon ar y bwrdd ar gyfer amser swper fod yn her. Ond does dim rhaid iddi fod felly.

Ychydig bach o baratoi yn gynharach yn y dydd i roi cychwyn ar bethau yn y popty (neu’r popty araf) yw’r cyfan sydd angen ei wneud, ac erbyn amser swper, bydd pryd iachus ar y bwrdd. Mae bwyd sy’n cael ei goginio’n ysgafn ar dymheredd is am gyfnod hirach nid yn unig yn arbed ychydig o amser i chi, ond mae’n hynod flasus ac yn ffordd wych o gloi’r holl ddaioni naturiol i mewn.

Dim ffws. Dim penderfyniadau munud olaf i’w gwneud ynglŷn â swper. Dim ond gweini a mwynhau.

 

Er mwyn creu perffeithrwydd sy’n tynnu dŵr i’r dannedd, dyma ambell ffordd o goginio Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn araf:

 

Christmas spiced Welsh Lamb casseroleTraddodiadol a blasus

Gallwch chi sicrhau canlyniadau gwych trwy goginio cig yn araf mewn popty confensiynol. Mae hambyrddau popty dwfn a dysglau caserol gwrth-ffwrn gyda chaeadau yn ddelfrydol ar gyfer coginio cig eidion neu gig oen blasus yn araf.

 

 

Mwg a blas

Peiriant sy’n defnyddio siarcol / pren sy’n coginio bwyd yn isel ac yn araf trwy ei ysmygu yw mygwr. Gallwch sicrhau canlyniadau tebyg ar farbeciw, ond mae angen rheoleiddio’r tymheredd coginio â llaw. I gael y canlyniadau gorau, cyfeiriwch at eich llawlyfr defnyddiwr mygwr / barbeciw a chyn pen dim byddwch wedi perffeithio’r brisged mwg neu’r ysgwydd cig oen mwg.

 

Cynnau. Ychwanegu. Mwynhau.

Offeryn trydanol i’w roi ar ben y cownter yw popty araf. Mae’n ffordd gyfleus a rhad i goginio, yn defnyddio llai o egni na ffwrn gonfensiynol. Ychwanegwch gig wedi’i baratoi, llysiau a hylif i’r potyn, ei gynnau, a gadael iddo wneud ei waith! Mae’n wych ar gyfer caserolau cig oen neu gig eidion a chyri brau.

 

 

 

Cyngor Campus

Ffwrn gonfensiynol

  1. Gadewch I’r cig gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn ei goginio
  2. I gael dyfnder yn y blas, seriwch / browniwch y cig ar bob ochr yn gyntaf
  3. I helpu I wneud yn frau, gorchuddiwch y cig neu ychwanegwch hylif (e.e stoc, alcohol)

 

Mygwr / barbeciw

  1. Defnyddiwch wres anuniongyrchol barbeciw tegell (oddi ar y siarcol poeth) a’I orchuddio â chaead (fent ar agor). Cadwch y tymheredd coginio yn gyson isel
  2. I gael blas ychwanegol, ychwanegwch berlysiau at y glo

 

Popty araf

  1. Mae toriadau rhatach o gig yn ddelfrydol ar gyfer y popty araf, ga neu bod fel arfer yn cynnwys fwy o feinwe cysylltiol
  2. Tynnwch y croen a’r braster oddi ar y cig
  3. I gael dyfnder yn y blas, seriwch / browniwch y cig ar bob ochr yn gyntaf
  4. Ychwanegwch lysiau nad ydynt yn wreiddlysiau tua diwedd yr amser coginio
  5. Defnyddiwch lai o hylif na mewn ryseitiau popty confensiynol
  6. Os ydych chi’n defnyddio cynhyrchion llaeth, ychwanegwch nhw ar ôl gorffen goginio
  7. Os ydych chi’n defnyddio perlysiau gwyrdd ffres, ychwanegwch nhw’n union cyn gweini

 

Manteision coginio’n araf

Sut i ddefnyddio popty araf neu goginio mewn mygwr? Dyma rai o fanteision coginio’n isel ac yn araf…

  • Mae’r cig yn fwy tyner
  • Mae’n cloi daioni naturiol I mewn
  • Mae coginio mewn un potyn yn fwy gyfleus
  • Ma gan gig flas dyfnach a dwysach
  • Nid yw cig yn crebachu, yn wahanol I rostio’n gyflym

 

Mae’r blas yn well o gymryd amser

Cig Oen Cymru suddlon a gwych

Mae Cig Oen Cymru wedi’i goginio’n araf yn ffefryn gan gogyddion. Mae’n gwella blas yn ogystal â gwead y cig. O ysgwydd cig oen mwg sy’n ‘cwympo oddi ar yr asgwrn’ i fedaliynau blasus a chaserol cig oen, bydd y ryseitiau popty araf Cig Oen Cymru hyn yn dangos i chi sut i gael cig sydd wedi’i goginio’n hyfryd o araf.

 

 

 

 

 

 

Slow cooked Welsh Lamb shanks with rogan josh lentil and potato ragout

 

 

 

 

 

Slow cooked curried shoulder of Welsh Lamb

 

 

 

 

 

 

 

Cig Eidion Cymru sy’n tynnu dŵr i’r dannedd

Does dim sy’n rhoi mwy o gysur nag arogl cig eidion wedi’i goginio’n araf yn rhostio’n ysgafn ar benwythnos diog. Mae cig eidion wedi’i goginio’n araf yr un mor flasus fel rhan o stiwiau a chaserolau blasus. Cymerwch gip ar ein prydau swmpus wedi’u coginio’n araf a byddwch chi’n gwybod sut i goginio cig eidion yn araf yn wych mewn dim o dro.

 

 

 

 

Slow cooked beef brisket. Slow cooked Welsh Beef recipes

 

 

 

 

Moreish Welsh Beef short ribs in red wine and herbs

 

 

Share This