Mynd i'r cynnwys

Cig Oen Cymru PGI a blas ar y bywyd braf…

Aethon ni i sawl digwyddiad, gŵyl ac archfarchnad yn ystod yr haf, i arddangos y gorau o Gig Oen Cymru ac yn bwysicach oll, cyfarfod nifer ohonoch chi ar hyd y ffordd. Yn sicr, un o’r uchafbwyntiau oedd ymweld â gŵyl The Good Life Experience ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Yn yr heulwen hyfryd cawson ni air gyda threfnydd yr ŵyl a’r cerddor enwog Cerys Matthews er mwyn trafod ei brwdfrydedd tuag at fwyd lleol, tymhorol a’r ryseitiau anhygoel y gellir eu coginio am bris rhesymol. Gwyliwch ein fideo er mwyn dysgu mwy am sut y gwnaeth hi ryfeddu’r dorf gyda phryd adnabyddus iawn – cawl Cig Oen Cymru wedi ei goginio dros bwll tân – a rhannu rhai o’r straeon o’i llyfr coginio newydd sbon. https://www.youtube.com/watch?v=M8rBNCi9ghQ

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025