Mynd i'r cynnwys

Cael yr hyn sydd ei angem arnom...mewn ffordd naturiol

Mae pethau’n newid. Mae hyd yn oed anghenion maethol ein cyrff yn amrywio ac yn newid drwy gydol ein bywydau, ac mae’n hanfodol o fabandod hyd at gamau diweddarach ein bywydau, ein bod yn gofalu am ein cyrff er mwyn iechyd a hapusrwydd.

Oes un bwyd y dylem fod yn ei fwyta a all roi ein holl anghenion dietegol i ni? Yn fyr, yr ateb yw ‘na’; nid oes unrhyw fwyd sengl yn cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnom ar gyfer iechyd da. Y ffordd symlaf i ffordd iach o fyw yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd.



Fodd bynnag, mae un bwyd a all ein helpu i gadw golwg ar ein cymeriant o haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, Fitaminau B, Fitamin D ym mhob cam o fywyd: cig coch.


Wedi’i bacio â’r fitaminau a’r mwynau hanfodol hyn, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn ei graidd ein helpu ni drwy gydol ein bywydau i gadw’n heini ac yn iach.


Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi’i goginio’r wythnos fod yn ganolog i ddeiet iach a chytbwys.


Mae cig coch yn naturiol gyfoethog mewn protein ac mae’r fitaminau a’r mwynau sydd ynddo yn cynnig llawer o fanteision iechyd. Er enghraifft, gall gefnogi rheoli pwysedd gwaed ein cyrff; iechyd y llygaid a’r croen; iechyd yr esgyrn; swyddogaeth y cyhyrau a’r nerfau; iechyd atgenhedlu; gwallt ac ewinedd; cludo ocsigen i’n hatal rhag teimlo’n flinedig; ynghyd â swyddogaeth imiwnedd a swyddogaeth wybyddol. Gall hefyd ein helpu gyda chanolbwyntio a gall gynnig egni cynaliadwy i ni i fwrw ymlaen â’n bywydau bob dydd.


Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a sinc sy’n cael eu hamsugno’n well gan ein cyrff na’r rhai a geir mewn unrhyw ffynonellau dietegol eraill. Mae haearn hema o gig coch yn cael ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn nad ydynt yn hema.


Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddeiet cytbwys iach yn ffordd ardderchog o wneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr hyn sydd ei angen arnoch chi ar gyfer iechyd da – fel y bwriadodd natur.


Rhowch gynnig ar ein Ryseitiau

Bwyta Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig

Cig Oen Cymreig

Cig Eidion Cymreig



© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025