https://youtu.be/Wn4-WNI01eY
Rydym yn gwybod bod llawer o brynwyr wrth eu boddau â blas cig coch Cymru, ond yn poeni nad yw’n ‘iach’. Wel, does dim angen poeni rhagor. Rydym wedi paratoi animeiddiad a ffeithlun er mwyn esbonio pam y gallwch barhau i fwynhau cig coch Cymru fel rhan graidd o ddiet cytbwys, a sut y gall eich helpu ar y llwybr at iechyd…
Yn gyntaf, mae’n bwysig cofio nad oes un bwyd yn cynnwys yr holl faetholion rydym eu hangen ar gyfer iechyd da, felly mae’n bwysig bwyta amrywiaeth eang o fwydydd bob dydd.
Yn ffodus, mae cig coch Cymru yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol. Mae astudiaethau yn dangos fod y maetholion hanfodol yma’n helpu i wella ein hiechyd a’n lles. Er hyn, mae llawer o bobl (ar draws pob grŵp oedran) yn profi diffyg o ran y maetholion sydd eu hangen – mae siawns dda eich bod chi yn un o’r rhain.
Mae maetholion da pwerus cig coch yn cynnwys:
- Fitamin A (ar gyfer iechyd y llygaid a’r croen)
- Fitamin B (ar gyfer rhyddhau egni ac atal blinder)
- Fitamin D (ar gyfer iechyd yr esgyrn a’r system imiwnedd)
- Haearn (ar gyfer cludo ocsigen a swyddogaeth imiwnedd a gwybyddol)
- Magnesiwm (ar gyfer swyddogaeth nerfau a’r cyhyrau)
- Sinc (ar gyfer iechyd ewinedd, gwallt ac organau atgynhyrchiol)
- Seleniwm (gwrthocsidydd pwerus)
- Potasiwm (ar gyfer rheoli pwysau gwaed)
- Wrth brynu eich cig, edrychwch am ddarnau gyda llai o gynnwys braster a braster dirlawn
- Gallwch dorri unrhyw fraster gormodol cyn coginio, a chael gwared ar unrhyw fraster ychwanegol all ymddangos yn ystod y broses o’i goginio
- Dylech osgoi defnyddio gormod o olew neu fraster wrth goginio, ac mae grilio yn hytrach na ffrio eich cig yn galluogi i’r braster ychwanegol ddisgyn oddi ar y cig.