facebook-pixel

Allwch chi greu ‘brechdan i’r brenin’?

Ebr 23, 2020

Mae Chris ‘Flamebaster’ Roberts, brenin y barbeciw am osod her epig i CHI – creu brechdan stêc Cig Eidion Cymru PGI sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Mae Chris yn enwog am ei brydau llawn cig, felly fe yw’r beirniad perffaith ar gyfer cystadleuaeth fwyaf blasus yr haf! Am ychydig o ysbrydoliaeth ac arweiniad, yn ogystal â syniad o’r safon ddisgwyliedig, edrychwch ar ymgais Chris isod:

‘Brechdan i’r brenin’ mewn 4 cam:

1. Ewch draw i’r archfarchnad neu at eich cigydd lleol, neu ar-lein, a phrynu stêc(s) Cig Eidion Cymru PGI. Gall eich cigydd roi cyngor arbenigol i chi ar wahanol ddarnau Cig Eidion Cymru i’ch helpu i benderfynu pa un i’w ddewis ar gyfer eich ymgais.

2. Ewch i’r gegin a choginio eich stêc fel rydych chi’n ei hoffi a’i weini yn eich brechdan arbennig, unigryw. Byddwch yn greadigol gyda’ch cyflwyniad – a oes tamaid ar yr ochr a garnais? A oes bara? Chi bia’r dewis! Cofiwch, mae ansawdd eich brechdan unigryw yr un mor bwysig â’i maint!

3. Dangoswch inni eich bod chi wedi cwblhau’r her trwy roi llun neu fideo o’ch brechdan arbennig ynghyd â’r rysáit hollbwysig ar eich sianeli cymdeithasol gan ddefnyddio #BrechdanIrBrenin a’n tagio ni yn eich neges:

– Facebook: @PGIWelshBeef

– Instagram: @pgiwelshbeef

Twitter: @PGIWelshBeef

4. Am ysbrydoliaeth yn y dyfodol, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod rhagor o ryseitiau Cig Eidion Cymru PGI sy’n berffaith ar gyfer unrhyw achlysur!

Ydych chi’n barod am yr her?

Mae’r gystadleuaeth yn cychwyn yn ystod Wythnos Cig Eidion Prydain (23 – 30 Ebrill ) i ddathlu gwaith anhygoel ffermwyr, cigyddion a’r holl economi gwledig sy’n cynhyrchu ein Cig Eidion Cymreig PGI unigryw a bydd yn cau ar 31 Mai.

Unwaith iddo dderbyn y cynigion, bydd Chris yn creu rhestr fer o’i dair hoff ymgais ac yn eu hailgreu gartref yn ei gegin gan ddewis yr enillydd yn y ffordd fwyaf teg – trwy flasu!

Prif wobr ein her fawr yw crochan tân Kadai gydag ategolion gwerth dros £400 – breuddwyd pawb sy’n dwlu ar gig a pherffaith ar gyfer ailgreu eich brechdan fuddugol dro ar ôl tro yn eich gardd yn ystod yr haf.

Hefyd, bydd taleb gwerth £100 i’w wario mewn siop neu ar wefan unrhyw aelod o’n Clwb Cigyddion er mwyn i chi gael mwynhau Cig Eidion Cymru PGI o’r radd flaenaf.

Bydd gwobr gysur o daleb Clwb Cigyddion gwerth £100 i’r ddau gystadleuydd sydd wedi gwneud eu gorau glas gyda’u brechdanau blasus, i ddangos ein gwerthfawrogiad i’r rheini fydd wedi cyrraedd y rhestr fer ond heb gyrraedd y brig.

Yn olaf, bydd y cais sydd wedi defnyddio’r cyfuniad mwyaf gwallgof o gynhwysion i greu eu brechdan i’r brenin yn derbyn taleb Clwb Cigyddion gwerth £100 unwaith eto am eu dyfeisgarwch i ddod â chyfanswm y pot gwobrwyo i dros £800! Felly gwisgwch eich ffedogau, paratowch eich sosbenni ac ewch i chwilota yn eich cypyrddau i feddwl am y cyfuniadau gorau a mwyaf unigryw ar gyfer eich brechdanau stêc – Pob lwc i chi i gyd!

Share This