https://youtu.be/qLGMKVt3G70
Ers canrifoedd, mae ffermwyr da byw Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig anhygoel o brydferth sydd mor agos at ein calonnau. Mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu creu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n ferw o fywyd gwyllt ac yn addas i ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnal rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig sy’n cael eu rheoli’n ofalus gan bori cyfrifol.
Er bod effaith amaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiaethau enfawr yn effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ledled y byd, a bod Cymru’n arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid.
Y Ffordd Gymreig
Mae canrifoedd o ddulliau traddodiadol magu anifeiliaid wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, felly gallwch chi fod yn hyderus y gellir olrhain Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn llwyr a’u bod yn cael eu magu mewn cartrefi hapus, iach. Efallai bod ffermio wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd, ond mae’r ffermwr a’r ci yn parhau i sefyll ochr yn ochr gyda’u preiddiau a’u gyrroedd.
Dyma dri o’r gwahaniaethau rhwng y ffordd Gymreig o amaethu a’r ffyrdd a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r byd...

- Mae’r mwyafrif (80%) o dir amaeth Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, felly magu gwartheg a defaid yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol i mewn i fwyd a phrotein o ansawdd uchel.
- Yn wahanol i rannau eraill o’r byd ble mae adnoddau dŵr yn brin neu ble y defnyddir tir pwysig i dyfu porthiant, nid yw’r Ffordd Gymreig o ffermio yn ddwys i raddau helaeth, a chaiff defaid a gwartheg eu magu ar ein hadnoddau naturiol o laswellt a dŵr glaw.
- Mae glaswelltir bryniau Cymru yn dal carbon o’r amgylchedd ac mae ffermwyr Cymru yn gwneud cyfraniad positif tuag at liniaru newid hinsawdd drwy reoli’r glaswelltir hwn drwy gyfuno arferion traddodiadol a dulliau arloesol.