facebook-pixel

Blasau’r byd gyda thro Cymreig : Gwledd Cig Oen Cymru gyda Matsudai Ramen

Gor 5, 2024

Fe wnaethom ymuno â chwech o gogyddion a bwytai gorau Cymru yn ddiweddar i greu llu o ryseitiau blasus, pob un ag un peth yn gyffredin; Cig Oen Cymru oedd seren y sioe! O ryseitiau syfrdanol Sbaenaidd i’n hoff fwydydd cysur a phopeth yn y canol, fe wnaeth plât arddangos amlbwrpasedd ac ansawdd uchel Gig Oen Cymru.

Ein hail stop ar ein taith coginio oedd Grangetown yng Nghaerdydd. Yma, cawsom gyfarfod â’r cogydd hynod dalentog, James Chant – sylfaenydd siop ramen gyntaf Cymru, a’r mwyaf enwog yn y DU; Matsudai Ramen.

Dechreuodd Matsudai Ramen ei fywyd yn 2019 fel siop ‘pop-up’ ac allfa greadigol i James – nad oedd ar y pryd erioed wedi gweithio mewn cegin broffesiynol. Edrychwn ymlaen i 2024 ac mae James bellach yn rhedeg siop ramen hynod lwyddiannus ym mhrifddinas Cymru yn ogystal â chynnig cyflenwadau cit ramen ledled y DU, ac mae wedi derbyn canmoliaeth gan fawrion coginio fel Jay Rayner, Andi Oliver a Tom Parker Bowles.

James Chant, Matsudai Ramen founder

Rhoesom friff bras i James o greu pryd syfrdanol o Gig Oen Cymru a fyddai’n ysbrydoli cogyddion cartref a waw, a wnaeth e! Cawsom flas ar garaage Cig Oen Cymru flasus (‘ka-raa-geh’) – techneg goginio draddodiadol Japaneaidd o ffrio cig sydd wedi’i orchuddio’n ysgafn ac wedi’i farinadu – ac wir, roedd mor flasus ag y mae’n swnio!

Roedd y rysáit 3 cham yn cynnwys brownio a brwysio’r Cig Oen Cymru, gwneud y mayonnaise Japaneaidd ac yna ffrio’r cig oen yn ddwfn. Fel arfer, byddai’r karaage yn cael ei fwynhau gyda’r mayo a chwrw, ond awgrymodd James y byddai’r un mor flasus wedi’i weini dros reis a’i orchuddio â gwymon nori a mayonnaise ar gyfer cinio teuluol cyffrous ac unigryw.

Welsh Lamb Karaage dish prepared by Matsudai Ramen

I James, roedd y rysáit yma wedi’i chreu ar gyfer Cig Oen Cymru:

“Un o’r pethau mwyaf gwych am coginio gyda Cig Oen Cymru yw ei ansawdd uchel, sy’n eich galluogi i arbrofi gyda llu o wahanol dechnegau coginio a blasau, ac mae’r blasau Japaneaidd yn y pryd hwn yn cyd-fynd yn berffaith â chyfoeth Cig Oen Cymru.”

Ac ni allem gytuno yn fwy, James!

Am fwy o ysbrydoliaeth ryseitiau blasus sy’n arddangos blas unigryw a rhagorol Cig Oen Cymru, ewch i’n tudalennau ryseitiau.

Share This