- Mewn powlen fach, cymysgwch yr olew gyda’r sbeis cajun
- Rhowch y stêc yn y cymysgedd a gadewch am 10 munud tra byddwch yn paratoi gweddill y cynhwysion
- Cynheswch y ffrïwr aer am 2 funud ar 200’C
- Rhowch y stêcs yn y fasged a’u coginio am 5 munud, yna eu troi a’u coginio am 3 munud arall (ar gyfer Canolig Prin). Gadewch i orffwys am 5 munud ac ysgeintiwch gyda halen a phupur.
- Tra bod y stêc yn coginio cymysgwch y winwnsyn, y tomatos, y ciwcymbr a’r coriander
- Cymysgwch y crème fraiche a’r saws tsili poeth gyda’i gilydd
- Rhowch y stêc ar fwrdd torri a’i sleisio’n denau
- Llwythwch y tacos drwy roi ychydig o letys yn y gwaelod, ychydig o’r saws, yna’r gymysgedd tomato, caws a’r cyfan gyda’r stêc wedi’i sleisio a’i arllwys gyda gweddill y saws.
Tacos crensiog Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 8 mun
- Ar gyfer 2

Bydd angen
- 1x 250g stecen syrlwyn
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 llwy de sesnin Cajun
- Pinsiad o bupur du
- 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n fân
- 2 domato wedi’u torri’n fân
- Darn 6cm o giwcymbr wedi’i giwbio’n fân
- Dyrnaid fach o goriander, wedi’i dorri’n fân
- 75g caws cheddar cryf, wedi’i gratio
- Dyrnaid letys wedi’i dorri’n fân
- Twb bach o Crème fraiche neu hufen sur â llai o fraster
- Sblash saws tsili poeth
- Tacos Creisionllyd